Ymchwilio wedi marwolaeth siop sglodion Sir Gaerfyrddin

  • Cyhoeddwyd
HermonFfynhonnell y llun, Google

Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi marwolaeth dynes 69 oed ar ôl cael llosgiadau mewn siop sglodion yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y ddynes wedi marw ar 29 Hydref yn Ysbyty Treforys, a hynny ar ôl digwyddiad yn y siop yn Hermon ar 23 Hydref.

Cafodd dyn 70 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad a'i ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un aeth i'r siop rhwng 12:00 a 15:00 ar 23 Hydref i gysylltu â nhw ar 101.