Gwrthdrawiad A40: Teyrnged i ferch 4 oed a fu farw

  • Cyhoeddwyd
Darcy-May ElmFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Darcy-May Elm mewn gwrthdrawiad ar yr A40 yn Llanllwch, Sir Gaerfyrddin

Mae teulu merch 4 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 ger Caerfyrddin wedi rhoi teyrnged iddi.

Bu farw Darcy-May Elm, o Swanage yn Dorset, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar yr A40 yn Llanllwch ar 27 Hydref.

"Rydym wedi torri ein calonnau o golli Darcy-May," meddai'r datganiad.

Mae ei rhieni, a gafodd eu hanafu yn ystod y gwrthdrawiad, yn dal i fod yn yr ysbyty.

Cafodd ei disgrifio gan ei theulu fel "merch ac wyres hyfryd ac annwyl" ac fel "merch ddireidus, gariadus".

Dywedodd y teulu: "Byddwn yn hiraethu amdani'n arw."

Mae'r teulu hefyd wedi diolch i bawb am eu cefnogaeth ac yn gofyn am breifatrwydd i alaru.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un fu'n dyst i'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.