Dyfodol ansicr yn wynebu Clwb Rygbi Castell-nedd

  • Cyhoeddwyd
Y Gnoll
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell-nedd wedi chwarae ar gae Y Gnoll ers y 1880au

Mae un o glybiau rygbi hynaf Cymru yn wynebu cael ei ddirwyn i ben gan lys ddiwedd y mis.

Mae clwb Castell-nedd, sy'n masnachu dan yr enw Neath Rugby Cyf, wedi mynd i drafferthion yn dilyn cwymp cwmni adeiladu Cuddy sy'n eiddo i Mike Cuddy.

Mr Cuddy sydd hefyd yn berchen ar Neath Rugby Cyf.

Fe fydd gwrandawiad i benderfynu dyfodol y clwb yn cael ei gynnal ym Mhort Talbot ar 26 Tachwedd.

Ar hyn o bryd mae Castell-nedd ar waelod Uwch Gynghrair Principality.

Fe wnaeth cwmni adeiladu Cuddy gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ym mis Gorffennaf eleni.

Mae Mr Cuddy, 54, yn dioddef problemau iechyd a dywedodd fod neb wedi camu mewn i achub y busnes.

Ar y pryd dywedodd na fyddai cwymp ei fusnes adeiladu yn effeithio ar y clwb rygbi.

Cwmni ariannol Jardine Norton sy wedi dod a'r achos yn erbyn y clwb.

Gwnaed cais i'r clwb, gafodd ei ffurfio yn 1871, am sylw.

Nid hwn yw'r tro cyntaf i'r clwb fynd i drafferthion ariannol - yn 2012 bu'n rhaid dod i gytundeb gyda Swyddogion Tollau am fethu a thalu digon o dreth.

Yn 2014, fe waeth Cyngor Castell-nedd fynd â'r clwb i gyfraith dros ddyledion treth busnes.