Merched Cymru: Naw chwaraewr heb gap yn y garfan
- Cyhoeddwyd
Mae Jayne Ludlow wedi enwi naw chwaraewr sydd heb ennill cap rhyngwladol yng ngharfan ddiweddaraf tîm pêl-droed merched Cymru.
Bydd y tîm yn wynebu Portiwgal oddi cartref mewn dwy gêm gyfeillgar ar 10 Tachwedd a 13 Tachwedd.
Ond fydd chwaraewyr profiadol fel Jess Fishlock a Loren Dykes ddim yn y garfan, gyda Ludlow yn dweud eu bod hi'n rhoi hoe iddyn nhw.
Cafodd y garfan ei chyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol gyda fideo o blant ar hyd a lled Cymru yn darllen enwau'r chwaraewyr gafodd eu dewis.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn gynharach eleni daeth y tîm yn agos at gyrraedd Cwpan Merched y Byd am y tro cyntaf erioed, cyn colli i Loegr yng ngêm olaf eu grŵp rhagbrofol.
Cyn hynny roedden nhw wedi llwyddo i fynd drwy'r ymgyrch heb golli gêm nac ildio gôl.
Carfan Merched Cymru:
Laura O'Sullivan, Clare Skinner, Emma Gibbon, Olivia Clarke, Sophie Ingle, Hayley Ladd, Ffion Morgan, Gemma Evans, Natasha Harding, Angharad James, Kylie Nolan, Nadia Lawrence, Helen Ward, Tamsyn Sibanda, Megan Wynne, Kayleigh Green, Emma Jones, Hannah Miles, Chloe Williams, Kelly Isaac, Rhiannon Roberts, Charlie Estcourt, Grace Horrell, Ella Powell, Elise Hughes, Cori Williams
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Medi 2018