Cyflog Byw yn godi 25c i £9 yr awr
- Cyhoeddwyd

Dywed y Prif Weinidog Carwyn Jones y bydd nifer yn elwa wrth i raddfa Cyflog Byw godi i £9
Mae chwarter gweithwyr Cymru yn ennill llai na'r hyn sy'n cael ei ystyried yn gyflog ddigon uchel i osgoi syrthio i dlodi, yn ôl gwaith ymchwil cwmni arbenigol.
Bydd tua 180,000 o bobl ar draws y DU yn cael mwy o gyflog o ddydd Llun ymlaen wrth i'r Cyflog Byw godi 25c yr awr i £9 yr awr.
Wrth danlinellu ymroddiad Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cyflog byw real, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones y bydd y cynnydd "yn golygu codiad cyflog i filoedd" o bobl ac yn "hwb i economi Cymru".
Ond mae gwaith ymchwil gan IHS Markit ar ran yr archwilwyr ariannol KPMG yn dangos bod canran y gweithwyr yng Nghymru sy'n ennill llai na'r cyflog byw - 25% - yn uwch na'r cyfartaledd ar draws y DU, sef 22%.
Mae'r Cyflog Byw Real y mae ymgyrchwyr yn galw amdano yn wahanol i'r hen isafswm cyflog statudol - £7.83 yr awr ar hyn o bryd i weithwyr dros 25 oed - sydd bellach yn cael ei alw'n Gyflog Byw Cenedlaethol.
Mae'n cael ei amcangyfrif yn annibynnol ac yn adlewyrchu'r hyn y mae angen i bobl ei ennill i osgoi syrthio i dlodi wrth dalu costau byw sylfaenol fel bwydo, dilledu a chartrefu eu hunain.
Mae'r Cyflog Byw Real yn cael ei dalu fel rhan o gynllyn gwirfoddol gan dros 4,700 o gwmnïau ar draws y DU, ac mae 174 o'r rheiny â phencadlys yng Nghymru.
Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd yn nodi'r Cyflog Byw Real newydd, dywedodd Mr Jones: "Ry'n ni'n cydnabod bod gwaith a chyflog teg yn help i gael economi iachach a chryfach a dyna pam 'nes i sefydlu Comisiwn Gwaith Teg yn gynharach eleni."


Dywed Mohammed Cheggaf bod y Cyflog Byw wedi gwella bywyd i'w deulu
'Mae'n gwneud gwahaniaeth'
Daeth cadarnhad ddydd Llun ar ddechrau wythnos o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth am y Cyflog Byw bod Prifysgol Aberystwyth wedi cael statws swyddogol cyflogwr Cyflog Byw Go Iawn.
Mae'n cyflogi dros 2,000 o bobl - un o gyflogwyr mwyaf canolbarth Cymru.
Dywedodd Dirprwy-Ganghellor y brifysgol, Elizabeth Treasure bod eu penderfyniad i fabwysiadu'r Cyflog Byw yn adlewyrchu egwyddorion a gwerthodd y sefydliad "fel cyflogwr moesegol".
Ychwanegodd eu bod bellach "yn gweithio i gefnogi ymarferion cyflogaeth cyfrifol" ymhlith cwmnïau sy'n cyflenwi'r brifysgol.
Dywed un o weithwyr y brifysgol, Mohammed Cheggaf bod derbyn Cyflog Byw "wedi gwneud gwahaniaeth mawr".
"Mae costau byw yn cynyddu o hyd," meddai. "Nawr rwy'n derbyn Cyflog Byw, mae talu'r biliau yn haws ac mae bywyd yn well i mi a fy nheulu."

Yn ôl cyfarwyddwr Cynnal Cymru - y corff sy'n rhedeg y cyflog byw yng Nghymru - mae angen i fwy o sefydliadau ddilyn esiampl Prifysgol Aberystwyth.
"Mae'n rhaid i ni weithio gyda chyflogwyr sy'n gallu [fforddio] talu'r cyflog byw go iawn," meddai Mari Arthur, sy'n dadlau bod talu Cyflog Byw yn sicrhau bod mwy o weithwyr â mwy o arian i'w wario yn lleol, er budd busnesau o bob maint.
Mae hefyd yn dweud bod nifer uwch o deuluoedd bellach yng Nghymru yn byw mewn tlodi er eu bod mewn gwaith, na theuluoedd tlawd sydd ddim yn gweithio.

Baneri Cyflog Byw yn cyhwfan o furiau Castell Caerdydd i nodi Wythnos Cyflog Byw 2018
Mae Cyngor Caerdydd yn talu Cyflog Byw ers 2015 ac mae'n gobeithio mai Caerdydd fydd Dinas Cyflog Byw cyntaf y DU.
Dywed bod yna 77 o gyflogwyr â statws swyddogol cyflogwr Cyflog Byw ond bod llawer yn rhagor eisoes yn talu o leiaf £9 yr awr heb fod wedi'u hachredu'n ffurfiol.
Mae'r cyngor yn gobeithio y bydd y nifer yn codi i 100 erbyn Nadolig eleni ac yn cynnig talu ffïoedd achredu am dair blynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2015