Rhyfel Mawr: Cofio cenhedlaeth goll Llansteffan

  • Cyhoeddwyd
cofio llansteffan

Yn Llansteffan mae'r gofeb olaf, sy'n rhan o brosiect i gofio am y 19 o fechgyn gafodd eu colli o'r ardal yn y Rhyfel Mawr, wedi'i dadorchuddio.

Mae myfyrwyr o Goleg Celf Caerfyrddin wedi creu 19 o gofebau gweledol unigol sydd yn cynnwys lluniau a hanes am bob milwr a laddwyd.

Mae'r cynllun wedi cael ei wneud mewn partneriaeth gyda'r Lleng Brydeinig a Neuadd Goffa Llansteffan.

Dros gyfnod o bedair blynedd, mae gwasanaeth unigol wedi ei gynnal i nodi union 100 mlynedd ers i bob milwr gael ei ladd.

Cafodd yr olaf, Williams Howells, ei gofio ddydd Sul. Fe gafodd ei ladd union wythnos cyn y cadoediad heddwch ar Dachwedd y 4ydd, 1918.

Un sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith trefnu yw'r Cynghorydd Sir lleol, Carys Jones.

Dywedodd: "Mae hwn wedi bod yn ddirdynnol i'r myfyrwyr. Mae'r ymchwil maen nhw wedi gwneud wedi cael tipyn o effaith arnyn nhw.

"Roedd hi'n golled fawr iawn - bois lleol, bois ifanc. Yn gadael gwagle mewn cymuned fechan fel hon. Bydd pawb yn gallu dod yma i'r neuadd a darllen eu straeon, a gweld eu bod nhw'n fois cig a gwaed go iawn."

Emosiynol iawn

Ar waliau'r Neuadd Goffa, mae yna gofeb i Thomas Trevor Treharne. Cafodd ei glwyfo yn Messines a bu farw ym mis Ebrill 2018. Roedd ei or-wyres, Gaynor Jones, yn bresennol yn y gwasanaeth ddydd Sul.

"Fe gafodd ei saethu yn yr ymladd a bu farw yn yr ysbyty yn Boulogne ar y 24ain o Ebrill 1918 - yr un diwrnod â ges i fy ngeni 48 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae'n emosiynol iawn i weld yr holl ddynion yma. Mae'n braf iawn i gael y gofeb yma."

Mae criw o fyfyrwyr Coleg Celf Caerfyrddin wedi bod yn gyfrifol am y gwaith. Un ohonyn nhw yw Jacob Davies, wnaeth greu cofeb i Thomas John wnaeth farw ym mis Ionawr 1916.

Dywedodd: "Fe ges i agweddau o hanes Thomas. Roedd e'n rili ddiddorol i ddysgu am hanes y bobl hyn. Roedd e'n neis i gael clywed am eu bywydau nhw cyn mynd i ryfel. Ro'n ni'n gwybod lot am Thomas."

Fe fydd y cofebau gweledol yn cael eu cadw ar waliau Neuadd Llansteffan fel teyrnged barhaol i genhedlaeth goll y plwyf.