Canfod bomiau heb ffrwydro ar dir eglwys yn Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
![yr eglwys](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B94D/production/_104173474_church1.jpg)
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i fomiau sydd heb ffrwydro ger eglwys ar Ynys Môn.
Dros y penwythnos bu swyddogion yn chwilio'r tir ger Eglwys Sant Mwrog yn Llanfwrog ger Caergybi.
Dywedodd swyddogion fod yr "ordnans" gafodd eu canfod yn debygol o fod wedi bod yno "ers peth amser".
"Fe fyddwn nawr yn archwilio'r eitemau yn fforensig a bydd ein hymchwiliad yn edrych i sut y daethon nhw i fod yno.
"Fe wnaethon ni archwilio'r ardal gyfagos yn llawn yn dilyn y darganfyddiad i wneud yn siŵr nad oedd eitemau eraill."
Ychwanegodd yr heddlu nad oedd perygl i'r cyhoedd ond eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd â gwybodaeth neu wedi gweld unrhyw beth amheus.
![chwilio'r eglwys](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1076D/production/_104173476_church2.jpg)