Nyrs o Gymru yn marw ar ôl trawiad ar wyliau yn Dubai

  • Cyhoeddwyd
Charlotte CarterFfynhonnell y llun, Tudalen JustGiving

Mae nyrs o Gymru wedi marw ar wyliau yn Dubai ar ôl cael ei tharo'n wael ar y daith draw o Brydain.

Roedd Charlotte Carter, 30, yn hedfan i'r Dwyrain Canol gyda dwy ffrind ar 29 Hydref pan ddechreuodd hi deimlo'n sâl ar yr awyren.

Yn y tacsi o'r maes awyr i'r gwesty dioddefodd ataliad ar y galon, ac er gwaethaf ymdrechion i'w hadfer mewn uned gofal dwys bu farw.

Mae un o'r ffrindiau oedd gyda hi, Megan Boyes, nawr wedi sefydlu tudalen i godi arian er mwyn ei chludo gartref a thalu am ei hangladd.

'Gofalgar a chlên'

Dywedodd Ms Boyes fod Ms Carter, oedd yn dod o Abertawe ond yn gweithio yn Llundain, wedi bod "mor gyffrous" i fynd ar y gwyliau.

Ond doedd ei ffrind heb brynu yswiriant teithio cyn mynd, gan olygu bod ei theulu nawr yn wynebu cost uchel i'w chludo hi nôl i'r DU wedi ei marwolaeth.

Mae'r dudalen JustGiving sydd wedi ei sefydlu ar gyfer y pwrpas hwnnw eisoes wedi codi £17,000 o'r targed o £30,000.

"Rydym ni eisiau helpu i godi'r arian achos, fel llawer o bobl ifanc, wnaeth Charlotte ddim prynu yswiriant teithio sy'n golygu y bydd y biliau meddygol a chost ei chludo hi nôl yn uchel iawn," meddai Ms Boyes mewn neges ar y dudalen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Charlotte Carter wedi teithio i Dubai am wythnos o wyliau gyda dwy ffrind

"Roedd Charlotte yn berson gofalgar, clên a meddylgar, ac fe wnaeth hi ymroi ei bywyd i helpu eraill fel nyrs iechyd meddwl.

"Cafodd hi ei chymryd oddi wrthym ni yn llawer rhy ifanc."

Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal yn y DU i benderfynu achos marwolaeth Ms Carter.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn cynnig cefnogaeth i ddynes Brydeinig yn dilyn ei marwolaeth yn yr Emiradau Arabaidd Unedig, ac mewn cysylltiad ag awdurdodau'r Emiradau."