Penderfyniad unfrydol i gau dwy ysgol gynradd ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Glanadda

Mae aelodau cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu'n unfrydol i gau dwy ysgol ym Mangor.

Bydd ysgolion Glanadda a Choedmawr yn cau erbyn 31 Awst 2020 gyda'r bwriad o symud disgyblion i adeilad newydd Ysgol y Garnedd fel rhan o gynllun gwerth £12.7m.

Roedd cadeirydd llywodraethwyr y ddwy ysgol sy'n cau, y Cynghorydd John Wynn Jones, wedi dadlau dros oedi cyn symud ymlaen gan ddweud bod y sefyllfa o ran niferoedd disgyblion wedi newid ers dechrau'r prosiect.

Ond yn ôl yr aelod o'r cabinet sy'n gyfrifol am faterion addysg, y Cynghorydd Gareth Thomas, fe fyddai unrhyw newidiadau i'r prosiect yn rhoi cyfraniad o fwy na £6m gan Lywodraeth Cymru yn y fantol, ac fe fydd disgyblion a staff yn elwa o'r adnodd newydd.

Dyblu'r capasiti

Bydd yr ysgol newydd yn cael ei chodi gerllaw'r un bresennol - sydd yn orlawn.

Bydd capasiti'r adeilad newydd yn ddwbl yr hen un, gyda lle ar gyfer 420 o ddisgyblion.

Disgrifiad,

Dywedodd Gareth Thomas mai sicrhau'r adnoddau gorau ydy'r flaenoriaeth

Un o'r rhesymau dros ad-drefnu oedd gostyngiad sylweddol yn niferoedd disgyblion ysgolion Glanadda a Choedmawr.

Roedd adroddiad i'r cyngor yn gynharach eleni'n dweud bod niferoedd disgyblion wedi "newid yn sylweddol ers 1980, gyda lleihad o 62% yn Ysgol Babanod Coedmawr, a 68% yn Ysgol Glanadda".

Ond ar ôl i'r ddwy ysgol uno ar un safle, a chyda bron i 60 o ddisgyblion ar y gofrestr erbyn hyn, roedd Mr Jones - maer presennol Bangor - yn dadlau bod angen ailedrych ar y cynlluniau ad-drefnu.

Dywedodd cyn y cyfarfod ddydd Mawrth: "Pan oedd y cabinet yn ystyried hyn yn gynharach yn y flwyddyn roedd y sefyllfa dipyn bach yn wahanol.

"Mi oedd yr ysgolion ar wahân 'efo llawer o lefydd gweigion ond bellach mae'r ddwy ysgol wedi dod i'r un adeilad a bellach toes na'm llefydd gweigion felly dydy'r rheswm dros gau ddim yn ddilys ar hyn o bryd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Wynn Jones yn dweud bod angen rhoi cyfle i'r ysgolion sefydlu eu hunain ar y safle newydd

Dywedodd ei fod yn gofyn i'r cyngor "ystyried gohirio'r penderfyniad i gau'r ddwy ysgol yma ar hyn o bryd a rhoi cyfle i'r ddwy ysgol gael sefydlu eu hunain fel un uned, ac wrth wneud hynny fasa nhw'n medru rhoi addysg yn lleol i bobl yr ardal."

Ond yn ôl y Cynghorydd Gareth Thomas, sydd â chyfrifoldeb am addysg ar Gabinet Cyngor Gwynedd, byddai'r ysgol newydd yn cynnig darpariaeth o'r radd flaenaf.

"Be 'da ni isio ydy'r adnoddau gorau i blant ac i staff ysgolion i gael dysgu'r plant ynddyn nhw...

"A 'da ni wedi gweld o ddatblygiadau eraill 'de ni wedi eu cael yn y sir bod yr adeiladau newydd a'r adnoddau sydd ynddyn nhw yn gwneud cymaint o wahaniaeth i blant ac i athrawon wneud eu gwaith."