Cynnydd defnydd banciau bwyd yn 'ofnadwy o drist'
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd o 13% wedi bod yn nifer y pecynnau bwyd gafodd eu dosbarthu yng Nghymru o'i gymharu â llynedd, yn ôl elusen.
Yn ôl y Trussell Trust maen nhw wedi dosbarthu bron i 50,000 pecyn argyfwng rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni.
Dywedodd Helen Bull, Rheolwr Datblygu ym manc bwyd yr elusen yng Nghaerdydd, fod y sefyllfa yn "ofnadwy o drist".
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth y DU mae'r rhesymau fod pobl yn defnyddio banciau bwyd yn niferus ac yn gymhleth.
'Erioed wedi teimlo mor isel'
Dywedodd un fam i dri yng Nghaerdydd ei bod wedi defnyddio banciau bwyd wrth aros am ei thaliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Nid oedd am roi ei henw, ond dywedodd nad oedd "erioed wedi teimlo mor isel", a'i bod yn poeni na fyddai hi'n gallu prynu anrhegion Nadolig i'w phlant.
Gan ei bod hi'n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf mae'n rhaid aros am bum wythnos, ac er iddi gael swm o arian am y cyfnod, dywedodd bod y mwyafrif wedi ei wario ar rent a biliau.
"Mae'r Nadolig rownd y gornel. 'Dwi wedi gweithio erioed felly mae mynd o hynny i ddim byd mewn wythnosau yn ofnadwy," meddai.
"Gall y plant ddim cael dim byd. Mae'r plant yn sicr yn gwybod achos 'dwi'n gorfod dweud 'na' pan maen nhw'n gofyn am bethau."
Mae'r Trussell Trust yn cyflogi tri aelod o staff sy'n gweithio gyda dwsinau o wirfoddolwyr mewn saith banc bwyd ar draws y brifddinas.
Er ei bod hi wedi clywed y fath straeon dro ar ôl tro, dywed Ms Bull ei bod yn dal i gael ei dychryn gan amgylchiadau rhai unigolion.
"Roedd un dyn a ddaeth i mewn diwrnod o'r blaen methu â fforddio prynu siampŵ, felly roedd rhaid iddo ddefnyddio Fairy liquid.
"Roedd un hogyn bach oedd yn mynd i ysgol yn Nhrelái... sylweddolodd ei athrawon fod ei draed yn gwaedu.
"Ar ôl edrych ar ei draed daeth i'r amlwg nad oedd gwadnau ar ôl ar ei 'sgidiau.
"Mae fel rhywbeth o un o lyfrau Dickens. Nid oedd ei rieni yn gallu fforddio esgidiau newydd iddo."
Yn ôl Ms Bull mae tri phrif reswm fod pobl yn gorfod defnyddio banciau bwyd - incwm isel, oedi neu newid i fudd-daliadau, a diwedd perthynas neu salwch.
Mae rhai hefyd wedi amlygu methiannau yn y system Credyd Cynhwysol fel rhan o'r rheswm tu ôl i'r cynnydd yn nifer defnyddwyr banciau bwyd.
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Gwaith a Phensiynau'r DU eu bod wedi cyflwyno anogaeth bellach i weithio, gan gynnwys cynyddu'r swm o arian gall unigolyn ei ennill cyn bod budd-daliadau yn lleihau.
Ychwanegodd fod y rhesymau fod pobl yn defnyddio banciau bwyd yn "gymhleth", a'i bod hi'n "anghywir i gysylltu cynnydd mewn defnydd ag un achos penodol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd15 Awst 2017
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2017