Tammy: Tom Jones, Benny Hill a brig y siartiau

  • Cyhoeddwyd
Tammy Jones yn canu ar y rhaglen bop 'Twndish' yn 1978
Disgrifiad o’r llun,

Tammy Jones yn canu ar y rhaglen bop Twndish yn 1978

Pedair oed oedd Helen Wyn o Fangor pan ganodd hi'n gyhoeddus am y tro cyntaf. Ers y perfformiad o 'Now is the Hour' ym mhriodas ei chwaer mi aeth ei gyrfa fel cantores o nerth i nerth.

Yn 1975 Helen, neu Tammy Jones i roi ei henw llwyfan iddi hi, oedd yr artist benywaidd o'r Deyrnas Unedig a werthodd y nifer fwyaf o recordiau y flwyddyn honno.

Yn ystod rhaglen Recordiau Rhys Mwyn nos Lun 5 Tachwedd bu Tammy'n hel atgofion gyda'r cyflwynydd am ei gyrfa ddisglair:

"Ro'n i'n cystadlu dros Gymru mewn eisteddfodau yn canu penillion a chanu gwerin," eglurodd Tammy. "Ro'n i hefyd yn aelod o gôr plant Wili Parry ym Methesda"

1975 oedd y flwyddyn fawr i Tammy. Mi enillodd hi gystadleuaeth dalent ITV, Opportunity Knocks, chwe wythnos yn olynnol. "Ro'n i wedi bod ar y teledu cryn dipyn cyn hynny. Mi fues i'n gwneud rhaglenni Cymraeg fel Hob y Deri Dando i BBC Cymru ac ro'n i wedi ymddangos ar gyfresi Tom Jones, Dick Emery a Benny Hill yn Saesneg."

"Roedd ennill Opportunity Knocks yn dipyn o beth. Roedd y rhaglen yn fyw a doedd 'na ddim traciau sain i'ch helpu chi fel sydd gan gystadleuwyr ar X Factor a The Voice y dyddia' yma. Ro'n i'n ca'l clywad ar y dydd Iau os oeddwn i wedi ennill ai peidio ac wedyn roedd yn rhaid dysgu cân newydd i'w pherfformio ar y penwythnos."

Wedi'r llwyddiant hwnnw y cyrhaedodd Tammy Jones frig y siartiau gyda Let Me Try Again. "Rhaid i mi ddiolch i fy nghariad i am honna," eglurodd. "Roedd o wedi darfod efo fi a phan glywis i'r gân yma - ro'n i'n gobeithio y bydda fo yn ei chlywad hi ac yn gadael i mi drio eto."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Tammy Jones lwyddiant mawr yn 1975

Hefyd o ddiddordeb

Canu o'r galon

"Pan o'n i'n y stiwdio yn Llundain ro'dd 'na gynhyrchydd wedi d'eud wrtha i os o'n i am ganu caneuon fel hyn roedd yn rhaid i mi fod wedi ca'l y profiad o chwalu efo cariad. Felly pan dwi'n canu unrhwybeth mae o'n dwad o'r galon"

Fe aeth y gân i rif 5 y siartiau sengl ym mis Mai 1975. Yn eironig, Tammy arall - Tammy Wynette, oedd ar y brig gyda'r gân Stand By Your Man.

"Daeth y gân â lot o glod i mi, ond fuaswn i allan o wynt yn trio ei chanu hi heddiw," chwarddodd Tammy.

Y flwyddyn ganlynol roedd hi ymhlith 12 o artistiaid fu'n cystadlu am yr hawl i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn yr Eurovision, ond Brotherhood of Man enillodd y gystadleuaeth yn yr Albert Hall a mynd yn eu blaenau i ennill y gystadleuaeth ryngwladol yn 1976 gyda'r gân Save Your Kisses For Me. Digwydd bod, Nicky Stevens o'r grŵp hwnnw yw'r unig artist o Gymru i brofi llwyddiant yn y gystadleuaeth honno.

Wedi hynny buodd Tammy'n perfformio yn gyson mewn cyngherddau ac ymddangos mewn pantomeimiau gyda digrifwyr fel Jim Davidson, The Krankies a Les Dawson.

Mae hi bellach yn ei saithdegau ac wedi symud yn ôl i ogledd Cymru wedi cyfnod maith yn byw yn Seland Newydd. Er ei bod hi wedi 'ymddeol' fel cantores, mae 'na dal alw arni hi i berfformio.

"Dwi fel Frank Sinatra. Dwi'n trio ymddeol, ond dydyn nhw ddim yn gadael i mi felly dwi'n dal i ganu yma ac acw. Dwi'n falch o be' dwi wedi ei 'neud. Ges i amser da."

Disgrifiad,

Tammy Jones yn rhannu ei hatgofion ar Recordiau Rhys Mwyn, BBC Radio Cymru