'Tân sigarét' yn lladd dynes a dau gi yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Ffordd GorsFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y tân yn Ffordd Gors ger y gyffordd â Kinmel Way

Mae'r gwasanaeth tân wedi dweud mai sigarét oedd yn gyfrifol am dân wnaeth ladd dynes a dau gi mewn tŷ yn Sir Conwy.

Fe wnaeth y gwasanaethau ymateb i ddigwyddiad mewn byngalo yn Ffordd Gors, Towyn ar 31 Hydref wedi adroddiadau bod mwg yn llifo o'r eiddo.

Cafodd dynes yn ei 60au ei darganfod yn y tŷ a'i chludo i'r ysbyty, ond bu farw yn ddiweddarach.

Yn dilyn eu hymchwiliad mae swyddogion wedi pwysleisio peryglon ysmygu yn y cartref, a dweud wrth bobl gymryd mwy o ofal.

Camau diogelwch

"Rydw i'n cydymdeimlo'n ddwys gyda'r teulu a'r ffrindiau oedd yn ymwneud a'r digwyddiad trasig yma," meddai Bob Mason o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

"Fe wnaeth yr ymchwiliad tân ganfod mai sigarét oedd wedi'i daflu i ffwrdd oedd achos y tân - mae hyn yn amlygu'n glir y peryglon o beidio diffodd sigarets mewn cynhwyswyr priodol.

"Mae'n hanfodol sicrhau bod unrhyw ddeunydd ysmygu yn cael ei ddiffodd yn saff, yn enwedig cyn mynd i'r gwely."

Ychwanegodd fod camau eraill i ddiogelu rhag tannau yn cynnwys peidio ag ysmygu yn y gwely, ceisio osgoi gwneud hynny ar ôl yfed neu gymryd cyffuriau, a gosod larymau tân yn y cartref.