Dwy chwaer yn dioddef o'r un canser
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n fis codi ymwybyddiaeth canser y pancreas, gydag ambell adeilad ar draws Prydain wedi ei oleuo'n borffor i ddenu sylw at y clefyd.
Bu farw Alison Evans o Landysul o'r afiechyd yn gynharach eleni. Ond mae ei chwaer, Julie, hefyd yn dioddef o'r un cyflwr.
Ar raglen Bore Cothi ar fore Mawrth, 6 Tachwedd, fe siaradodd Shân Cothi gyda Julie, a hefyd mab Alison, Carwyn Oliver:
"Roedd Alison yn berson mor hapus, ac yn mor barod i wneud unrhywbeth dros unrhywun. Roedd hi'n chwaer i fi, ond hefyd yn ffrind gorau i mi," meddai Julie.
"Roedden ni wedi bod drwy gymaint efo'n gilydd, hyd at y diwedd. Fe wnaethon ni rannu gymaint, nid yn unig yn blant gyda'n gilydd ond fe gafon ni'r bois yr un pryd, dim ond pum wythnos sydd rhyngddyn nhw. Ac wrth gwrs roedd gan y ddwy o'na ni'r un clefyd."
Ychwanegodd Carwyn, "Roedd wastad gwên ar ei hwyneb hi, dim ots lle oedd hi na beth oedd hi'n ei wneud."
Roedd Alison yn nyrs ac felly yn ymwybodol o'r cyflwr, lle doedd Julie ddim yn gyfarwydd ag ef: "O'n i'n meddwl, canser, chi'n cael cemotherapi a chi'n gwella. Ond pan dd'wedon nhw 'na does dim gwella i gael, chi'n bwrw 'mlaen i ailystyried bywyd."
Beth yw'r symptomau?
"Fe gollodd Alison wyth stôn, a dwi 'di colli tua dwy stôn," meddai Julie. "Chi'n teimlo fel clwtyn llawr ac eisiau mynd i'r tŷ bach yn aml. Doedd dim poen gen i, ond mi roedd Alison mewn poen."
Fe gollodd Julie ac Alison eu tad tua'r un cyfnod, ac roedd y doctoriaid yn awgrymu mai stres a gor-bryder oedd yn achosi iddynt golli'r pwysau.
Doedd Julie ddim yn ystyried pa mor ddifrifol oedd pethau: "Ges i sgan, a hyd yn oed y diwrnod pan ges i'r canlyniadau o'n i'n meddwl mai efallai peth bach oedd arna i, rhyw cyst neu rywbeth, ac roedd Alison yn meddwl yn gwmws yr un peth. Ges i ganlyniadau'r sgan y diwrnod wedyn, ac fe fwrodd e fi fel bric i'r pen."
Pythefnos wedi i Julie gael y diagnosis fe gafodd Alison union yr un canlyniadau.
"Anghofia i byth, fe ffoniodd hi fi a dweud ei bod hi yn fy nhŷ i, doeddwn i ddim gartref ar y pryd. Es i adre a'i chwrdd hi a dywedodd hi 'ma da fi e fyd'... shwt y' chi'n cymryd hynna?"
"Rydyn ni fel teulu'n agored iawn am ein salwch, dim byd i'w gwato, a beth ni moyn yw i bobl wybod am ganser y pancreas, ac os oes symptomau 'da chi ewch at y doctor a pwshio am y sgans a'r profion gwaed er mwyn dal e'n gynt na beth wnaethon ni'n dwy.
"Roedd fy nghanser i wedi lledaenu i'r pancreas, lle'r oedd canser Alison ond yn y pancreas ei hun. Felly roedd y driniaeth ga'th ni'n dwy'n hollol wahanol - gath hi cemotherapi, lle dwi ond yn cael tabledi.
"Roedd y ddwy o'na ni'n dweud 'allith hyn ddim cael ni lawr', alle fe ddim. Mae rhaid i ni er mwyn y plant - rhwng y ddwy ohonom ni mae pedwar o blant, ac er eu lles nhw mae rhaid i ni gadw'n gryf. Mae ysbryd Alison yn fyw yno fi o hyd, a dwi'n siŵr mai hi sy'n cadw fi fynd- roedden ni'n cadw'n gilydd i fynd a chodi ein gilydd os oedd y naill yn isel.
"Rwy'n cael fy niwrnodau. Fi 'di blino yn swps, fel o'n i dros y penwythnos lle o'n i ddim yn 100%. Ond y diwrnodau dwi yn teimlo'n well - rhoi'r colur 'mlaen a mas a fi drwy'r drws. Ond ar hyn o bryd dwi'n gwneud yn ocê."
Salwch teuluol?
"Dydi e ddim yn ganser sy'n rhedeg yn y teulu, er bod y ddwy wedi cael e," meddai Carwyn. "Fi'n credu bod rhaid codi'r ymwybyddiaeth ynglŷn â'r canser a chael profion a thrio dal e'n fwy cynnar."
Dywed Julie bod rhaid gwthio: "Os nad yw'r doctor yn credu chi mae rhaid mynd nôl a nôl a dweud 'dwi dal ddim yn iawn', a mynnu cael y sgan a'r profion yn gynnar."
Fe wnaeth Carwyn a'i gefnder Gareth skydive yn Abertawe er lles elusen canser. "Dwi'n cofio Mam yn dweud cyn iddi farw 'os nad wyt ti'n jumpo mas o'r awyren, rwy'n mynd i bwshio ti', a dwi'n siŵr y gwnaeth hi."
"Gwnewch be' allwch chi i godi arian ac ymwybyddiaeth o'r canser. Dwi a Gareth am wneud Hanner Marathon Caerdydd flwyddyn nesaf, gan hel arian ar gyfer Just in Time. Fe wnaeth Carys, fy nghyfnither wneud e eleni."
Rhoddodd Carwyn air o gyngor i unrhywun sy'n mynd drwy'r un profiadau ag y cafodd e: "Gwnewch y mwyaf o'r amser sydd 'da chi wedi i rywun gael y diagnosis. Dim ond edrych yn ôl ar yr amseroedd da haloch chi efo'ch gilydd allwch chi wneud."