Achos cyn-bostfeistr gafodd ei garcharu yn yr Uchel Lys
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-bostfeistr o Fôn sy'n honni iddo gael ei garcharu ar gam am anghysonderau ariannol yn dweud ei fod yn parhau i deimlo'n chwerw tuag at Swyddfa'r Post.
Bydd achos Noel Thomas a channoedd o is-bostfeistri eraill yn erbyn Swyddfa'r Post yn cyrraedd yr Uchel Lys yn Llundain ddydd Mercher.
Mae 556 o bostfeistri yn honni iddyn nhw gael eu herlyn, ond mai camgymeriadau'r system gyfrifiadurol achosodd i symiau o arian ddiflannu.
Mae Swyddfa'r Post yn mynnu fod ganddyn nhw ffydd yn eu systemau.
Fe gafodd Mr Thomas, oedd yn cadw Swyddfa'r Post yng Ngaerwen, ei garcharu am naw mis yn 2006, ar ôl cyfadde' bwlch o £48,000 yn y cyfrifon.
Yn yr Uchel Lys fe fydd y postfeistri yn honni mai'r gwir fai am y diffyg ariannol oedd system gyfrifon Horizon.
"Rwyf am i bawb allu cael clirio eu henwau ac i gael i'r gwir o beth ddigwyddodd ac i ble yr aeth yr arian," meddai Mr Thomas wrth y BBC.
Dywedodd Mr Thomas iddo bledio'n yn euog i gadw cyfrifon anghywir oherwydd iddo beidio ag adrodd y diffygion oedd yn bodoli yn y cyfrifon.
Ond mae o a'r postfeistri eraill yn gwadu yn bendant iddyn nhw gymryd unrhyw arian ac mai'r system gyfrifiadurol oedd ar fai.
Dair blynedd yn ôl honnodd rhaglen Panorama y BBC eu bod wedi gweld dogfennau cyfrinachol oedd yn dangos fod Swyddfa'r Post yn amau mai camgymeriad technegol yn hytrach na thwyll oedd wedi achosi i arian ddiflannu o gyfri Noel Thomas.
Yn yr Uchel Lys fe fydd Swyddfa'r Post yn gwadu'r honiadau am y system gyfrifiadurol.
Dywedodd llefarydd: "Byddwn yn amddiffyn ein safiad ac yn falch o'r cyfle i wneud hynny.
"Rydym yn cymryd yr achosion yma yn hynod ddifrifol ac rydym wedi ceisio yn galed i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau sydd wedi eu codi.
"Rydym wedi cynnal ymchwiliadau trwyadl gan geisio datrys problemau drwy gyfaddawd.
"Mae'n bwysig nodi fod yr achwynwyr yn cynrychioli canran fechan iawn (0.01%) o ddefnyddwyr system gyfrifiadur Horizon ers 2000."