Systemau TG iechyd yn cael 'effaith negyddol' ar gleifion

  • Cyhoeddwyd
NHS

Mae systemau cyfrifiadurol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn "hen ffasiwn" ac yn cael "effeithiau negyddol" ar gleifion, yn ôl adroddiad beirniadol iawn gan grŵp trawsbleidiol o ACau.

Clywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod systemau cenedlaethol wedi methu 21 o weithiau rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2018 - sy'n golygu bod problem Technoleg Gwybodaeth (TG) difrifol bob naw diwrnod, ar gyfartaledd.

Mae ymchwiliad y pwyllgor yn codi cwestiynau am gymhwysedd, gallu a chapasiti'r corff sy'n cydlynu TG - Gwasanaeth Gwybodeg Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru (NWIS).

Dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru yn "cydnabod nifer o bryderon gafodd eu hamlygu yn yr adroddiad".

'Dim ond crafu'r wyneb'

Mae adroddiad y pwyllgor yn codi pryderon mai dim ond 10% o weithgareddau NWIS sy'n canolbwyntio ar arloesi.

"Wrth i ni ddechrau craffu ar un maes gwelwn fod cwestiwn arall, yr un mor ddifrifol, yn codi mewn maes arall," meddai'r adroddiad.

"O ganlyniad, rydym yn poeni mai dim ond wedi crafu'r wyneb y mae ein gwaith craffu o ran problemau Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru."

Ffynhonnell y llun, Geograph/Mick Lobb
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth systemau cyfrifiadurol Ysbyty Felindre fethu 11 gwaith mewn pedair wythnos

Cafodd NWIS ei sefydlu yn 2003 i ddarparu gwasanaethau digidol a thechnoleg er mwyn moderneiddio gofal cleifion yng Nghymru.

Sefydlu system i drosglwyddo cofnodion meddygol cleifion yw un o'i brif brosiectau.

Ond mae'r adroddiad yn nodi bod "gormod o achosion, [ble] mae'r GIG yn dibynnu ar gofnodion papur hen ffasiwn" pan allai cofnodion digidol wella gofal.

Mae'r pwyllgor yn "bryderus dros ben" i glywed am effeithiau negyddol methiannau technegol ar brofiadau cleifion ac ar forâl staff yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd er bod tystion yn mynnu nad oedd unrhyw gleifion wedi dioddef unrhyw niwed yn y cyfnod dan sylw.

Mae system gyfrifiadurol triniaeth canser, CaNISC, hefyd yn cael sylw fel un o'r prif feysydd sydd angen sylw, gyda'r pwyllgor yn dweud eu bod wedi eu "dychryn" gan dystiolaeth bod Microsoft wedi rhoi'r gorau i ddarparu cefnogaeth ar gyfer y system yn 2014, a'i fod yn peri risg seiberddiogelwch.

Mae'r pwyllgor yn feirniadol iawn hefyd o'r diwylliant o fewn NWIS, gan ddweud bod "diffyg natur agored a thryloyw tybiedig ar draws y system gyfan", a'u bod nhw'n poeni bod hyn o bosib yn "cuddio problemau ehangach a dyfnach".

"Mae cyrff y GIG yn rhwystredig gyda'r cyflwyniad araf a phroblemau gyda systemau sydd ganddynt ac yn pryderu am atebolrwydd dryslyd. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn rhwystredig oherwydd diffyg cyfarwyddyd gan y GIG ehangach."

Fe welodd y pwyllgor dystiolaeth hefyd bod y corff yn "or-gadarnhaol" wrth asesu eu gwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Pan fethodd systemau technoleg y GIG ym mis Ionawr, dywedodd un meddyg bod y sefyllfa'n "llanast"

Er hynny, mae'n cydnabod bod "cyllid yn brin, ac mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cydbwyso'r blaenoriaethau sy'n cystadlu o gynnal seilwaith tra dan bwysau i gyflwyno systemau newydd".

Mae'r adroddiad yn gwneud pum argymhelliad, gan gynnwys adolygiad o allu uwch arweinyddiaeth NWIS a Thîm Digidol ehangach y gwasanaeth iechyd.

Daw ymchwiliad y pwyllgor yn dilyn adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr.

Daeth yr adroddiad yna i'r casgliad bod cynlluniau i ddigido cofnodion cleifion yn wynebu oedi sylweddol.

'Amser ailgychwyn'

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Nick Ramsay, bod "anfodlonrwydd eang ar draws y GIG" gyda pherfformiad NWIS.

"Mae ein hymchwiliad wedi codi cwestiynau difrifol am gymhwysedd, gallu a chapasiti ar draws y system iechyd i gyflawni gweddnewidiad digidol yng ngofal iechyd Cymru," meddai.

"Hyderwn y bydd ein hymchwiliad a'r adroddiad hwn yn rhybudd eglur i bawb sy'n ymwneud â harneisio grym arloesedd digidol i wella gofal iechyd yng Nghymru. Credwn ei bod hi'n amser ailgychwyn."

Dywedodd llefarydd bod Llywodraeth Cymru yn "cydnabod nifer o bryderon gafodd eu hamlygu yn adroddiad y PCC", a bod angen "adolygu'r canfyddiadau yn fanwl cyn ymateb".

Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd ar ran NWIS y byddan nhw'n ystyried canfyddiadau'r adroddiad.