Ansicrwydd Brexit yn achosi 'pryder' diangen
- Cyhoeddwyd
Mae'r modd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnal trafodaethau Brexit i'w feio am ddiswyddiadau posib mewn ffatri ceir yn Llanelli, yn ol Prif Weinidog Cymru.
Mae safle Schaeffler wedi ei glustnodi i gau'n sgil "ansicrwydd ynghylch Brexit" gan beryglu 220 o swyddi.
Dywedodd Carwyn Jones y gellir osgoi'r "pryder" pe bai gweinidogion yn San Steffan yn glir y bydd cytundeb Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd yn dod.
Mae Swyddfa Cymru wedi ymateb drwy ddweud fod y Llywodraeth wedi cyflwyno cynllun credadwy ar gyfer y berthynas gyda'r UE yn y dyfodol.
'Llanast'
Ddydd Mawrth cyhoeddodd y cwmni ceir o'r Almaen ei fod yn dechrau ar gyfnod ymgynghori ar gynlluniau i gau ei safleoedd yn Llanelli a Plymouth tra'n ailstrwythuro'i waith yn y DU.
Dywedodd y cwmni bod Brexit yn "un ffactor ymhlith eraill" yn ei dadansoddiad o'r farchnad Brydeinig.
Ond ar drothwy cyfarfod o Gyngor Prydain-Iwerddon ar Ynys Manaw dywedodd Carwyn Jones taw Llywodraeth y DU oedd ar fai.
"Byddai'n bosib osgoi'r pryder yma pe bai gennym ni eglurder a hyder gan Lywodraeth y DU y bydd cytundeb yn dod nad sy'n effeithio'n andwyol ar fusnesau a'i gweithlu," meddai.
"Heddiw, byddaf yn galw eto ar Lywodraeth y DU i gyrraedd cytundeb sy'n diogelu swyddi a'r economi ac i roi'r gorau i ledaenu'r myth bod Brexit heb gytundeb yn opsiwn ymarferol.
"Faint yn rhagor o swyddi sy'n rhaid i ni eu colli cyn bod gwir gost yr ymddygiad yma'n cael ei gydnabod?
"Faint yn rhagor o deuluoedd sy'n gorfod dioddef achos bod Llywodraeth y DU yn gwneud llanast o'r trafodaethau Brexit?"
Er bod y Prif Weinidog wedi dweud bod 95% o'r cytundeb Brexit wedi ei gytuno, dydy trafodwyr y DU a'r UE ddim wedi cytuno eto ar sut mae gwarantu y bydd y ffin Wyddelig rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth yn parhau'n agored a di-rwystr yn y dyfodol.
'Argyfwng gwleidyddol'
Cyn ei gyfarfod gyda'r Taioseach Leo Varadkar a Phrif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon heddiw, rhybuddiodd Mr Jones bod y DU yn wynebu "argyfwng gwleidyddol digynsail" os ydy Theresa May yn methu â chyrraedd cytundeb gyda'r UE neu os ydy Tŷ'r Cyffredin yn gwrthod y cytundeb.
Pe bai hynny'n digwydd dylid cynnal etholiad cyffredinol, meddai Mr Jones.
"Ond rwy'n realistig nad oes unrhyw sicrwydd y bydd yna etholiad," meddai.
"Felly, wrth ystyried digwyddiadau'r wythnos diwethaf, rwy'n credu bod yn rhaid i mi fod yn glir iawn os nad oes etholiad, byddaf i a Llywodraeth Cymru cefnogi'n llwyr yr ymgyrch am Bleidlais y Bobl: pleidlais a fyddai - yn fy marn i - yn gorfod cynnwys opsiwn i barhau'n aelod o'r UE."
'Sefydlogrwydd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae'r penderfyniad i gau Schaeffler yn golled enfawr i'r ardal leol, lle mae nifer o ffactorau wedi bod ar waith.
"Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynllun manwl a chredadwy ar gyfer y berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd ar gyfer y dyfodol.
"Mae'n gynllun lle mae Prydain yn parhau i fod yn un o leoliadau mwyaf cystadleuol ym myd cynhyrchu ceir a nwyddau eraill.
"Mae cyflwyniad y Prif Weinidog o'r pum Cyngor Busnes newydd yn cynnig golwg cadarn er mwyn gyrru'r economi yn ei blaen, ac yn adlewyrchu teyrngarwch er mwyn sicrhau sefydlogrwydd wedi Brexit," meddai.