Carcharu llofrudd wnaeth geisio ffugio marwolaeth ei wraig

  • Cyhoeddwyd
Derek PotterFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae dyn o Abertawe wnaeth grogi ei wraig a cheisio ffugio ei bod wedi lladd ei hun wedi ei garcharu am isafswm o 17 o flynyddoedd.

Fe wnaeth Derek Potter lofruddio ei wraig Lesley, 66, yn eu cartref ar 7 Ebrill, cyn ffonio'r gwasanaethu brys i ddweud ei bod hi wedi crogi ei hun.

Cafodd y dyn 64 oed ei ganfod yn euog yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.

Wrth ei ddedfrydu i oes yn y carchar ddydd Iau, dywedodd y barnwr Mr Ustus Soole fod Potter wedi lladd ei wraig mewn pwl o dymer.

Ychwanegodd fod ei ymdrechion i wneud y cyfan edrych fel hunanladdiad yn "warthus a chywilyddus".

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llun camera cylch cyfyng o'r dafarn lle wnaeth Potter gyfaddef iddo ladd ei wraig

"Fe wnaethoch lofruddio eich gwraig o 26 mlynedd a'i chrogi a defnyddio pwysau eich corff i'w dal rhag symud.

"Fe wnaethoch adael y tŷ i gasglu arian oedd yn ddyledus i chi er mwyn cael y cyfle i ddychwelyd adref a honni eich bod wedi canfod eich gwraig yn crogi," meddai'r barnwr.

"Yna fe wnaethoch gysylltu â'r gwasanaethau brys."

'Dinistrio teulu'

Mewn datganiad ysgrifenedig i'r llys dywedodd merch Mr a Mrs Potter, Nicole: "Mae hyn wedi dinistrio fy nheulu.

"Rwy'n ei cholli yn fawr iawn, ac mae ei wyrion a wyresau yn ei cholli gymaint."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Lesley Potter ei ganfod yn ei chartref yn Y Mwmbwls ar 7 Ebrill

Dywedodd Potter "diolch yn fawr" i'r barnwr wrth gael ei ddedfrydu, gyda rhai o'r oriel yn gweiddi "gwarth" arno.

Yn wreiddiol ni chafodd y farwolaeth ei thrin fel un amheus, ond ar ôl i Potter gyffesu wrth ddynes mewn tafarn, fe ddechreuodd yr heddlu ymchwiliad newydd.

Dangosodd archwiliad post mortem fod gan Mrs Potter nifer o anafiadau gan gynnwys cleisiau a thoriadau niferus i'w hasennau.

Beirniadaeth o'r heddlu

Yn ystod yr achos dywedodd yr erlynydd Paul Hobson QC fod yr heddlu wedi gwneud camgymeriadau ac nad oedd yr ymateb wedi bod yn ddigonol.

"Doedd yna ddim swyddog o'r CID na swyddog meddygol yr heddlu wedi ymweld â'r safle," meddai Mr Hobson.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru y byddant yn ystyried y sylwadau a wnaed yn yr achos, ac yn cynnal adolygiad o ymateb gwreiddiol y llu i'r "farwolaeth drasig".

Dywedodd y llefarydd fod yr heddlu hefyd yn nodi fod yr erlyniad wedi disgrifio'r ymchwiliad wnaeth ddilyn fel un "proffesiynol a chyflym".

"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn aros gyda'r teulu a chyfeillion Lesley Potter."