Elusen: 'Byddwch yn ffrindiau gyda phobl ddigartref'
- Cyhoeddwyd
Mae galw ar drigolion Wrecsam i ddod yn ffrindiau â phobl ddigartref ac edrych tu hwnt i'w problemau cyffuriau, er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r broblem.
Mae'r dref eisoes wedi derbyn enw drwg ar ôl i luniau ymddangos o bobl dan ddylanwad cyffuriau yn gyhoeddus yng nghanol y dref.
Yn gynharach eleni fe wnaeth ffigyrau awgrymu bod mwy o bobl ddigartref ar strydoedd Wrecsam nac unrhyw le arall yng Nghymru oni bai am Gaerdydd.
Mae mudiad lleol nawr yn gofyn i bobl wneud eu rhan er mwyn helpu'r gwasanaethau brys sydd eisoes dan straen.
Newid agweddau
Mae Georgie Adams, sy'n rhedeg y cynllun 'Project Home', yn credu bod pobl leol yn canolbwyntio gormod ar broblemau cyhoeddus ehangach, yn enwedig pan maen nhw'n clywed geiriau fel 'Spice' a 'Mamba'.
Mae hi'n gofyn i drigolion lleol ddeall fod rhai sy'n defnyddio cyffuriau o'r fath yn aelodau o'r gymdeithas sydd ar eu gwaethaf.
Roedd 'Spice' neu 'Mamba' yn gyffur oedd yn gyfreithlon tan ddwy flynedd yn ôl pan benderfynodd y llywodraeth newid y ddeddf.
Sefydlodd Georgie Adams y fenter ar ôl gweld effaith digartrefedd ar aelod o'i theulu.
Dywedodd Ms Adams: "Roedd yn dorcalonnus. Mae hi mor bwysig ein bod ni'n cofio bod rhain yn bobl yn ein cymunedau sydd ar eu gwaethaf."
Bwriad y cynllun yw cynnig llety diogel i bobl ddigartref a sicrhau nad yw olion cyffuriau ar strydoedd y dref.
Mae Cyngor Wrecsam eisoes wedi cyflwyno cynlluniau i gartrefu pobl ddigartref dros gyfnod y Nadolig a'r flwyddyn newydd.
Yn ôl Ms Adams, bwriad Project Home yw cynnal cynllun mentora rhwng pobl leol a phobl ddigartref.
Cafodd y fenter ei lansio'n ddiweddar gyda thros 100 o gefnogwyr a 40 yn datgan eu bod yn fodlon cymryd rhan.
Dywedodd un o arweinwyr y cynllun, Fia Lancaster McGrath, mai bwriad y cynllun oedd "gadael i bobl wybod fod pobl ar gael i siarad".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2016
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2017
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2017