Paratoadau Brexit yn 'gwastraffu amser ac adnoddau'

  • Cyhoeddwyd
MeddyginiaethauFfynhonnell y llun, ALICJANE

Mae paratoi ar gyfer gwahanol bosibiliadau Brexit yn ymyrryd ar waith cwmnïau cyffuriau ac yn gwastraffu amser y gellid ei dreulio i greu meddyginiaethau newydd - yn ôl cynrychiolwyr o'r diwydiant.

Ond fe ddywedon nhw fod ganddyn nhw "gynlluniau cadarn" yn eu lle os na fydd y Deyrnas Unedig yn cyrraedd cytundeb Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Fel rhan o gyfarwyddiadau ar sut i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, mae Llywodraeth y DU wedi galw ar gwmnïau cyffuriau i storio gwerth chwe wythnos o feddyginiaeth ychwanegol.

Dywedodd y corff sy'n cynrychioli'r diwydiant fferyllol yng Nghymru fod y cynlluniau hynny ar waith, ond fod adnoddau sylweddol yn cael eu defnyddio ar gynlluniau Brexit a allai "fod yn wastraff llwyr".

'Her' i'r diwydiant

Blaenoriaeth Theresa May yw dod i gytundeb gyda Brwsel ond mae'r anghytuno dros ffin Iwerddon yn parhau.

Os ydy'r DU yn dod i gytundeb gyda'r UE a Thŷ'r Cyffredin yn derbyn hynny, gallai'r DU barhau i ddilyn rheolau Brwsel am gyfnod trosglwyddo.

Ond mae busnesau hefyd yn paratoi i'r trafodaethau fod yn aflwyddiannus, gan olygu nad oes cytundeb masnach.

Dywedodd cyfarwyddwr Cymru yng Nghymdeithas y Diwydiant Fferyllol bod yr "anghytundeb yn her i'r diwydiant".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd Dr Richard Greville: "Oherwydd natur fyd-eang y diwydiant... mae'n hanfodol bod nwyddau'n gallu symud yn rhydd gan fod rhai meddyginiaethau'n cael eu cynhyrchu yn y DU, rhai yn yr UE a rhai dros weddill y byd.

"Ond, yn syml, os ydych chi'n glaf yng Nghymru sydd angen y meddyginiaethau, lle bynnag maen nhw wedi eu cynhyrchu, rydych chi eisiau mynediad di-rwystr ato."

Yn ôl Dr Greville, mae rhai cwmnïau'n gwario hyd at £100m yn paratoi at Brexit.

"Byddai'n biti mawr petai hynny'n wastraff llwyr, ond efallai'n fwy pwysig, byddai'r arian wedi ei wario'n well ar ddatblygu meddyginiaethau newydd, fyddai wedi bod o well defnydd i gleifion dros y byd."

Mae tua 45 miliwn pecyn o foddion yn mynd o'r DU i Ewrop bob mis, a 37 miliwn yn dod i'r cyfeiriad arall.

'Gwastraff adnoddau'

Mae dau gwmni ger Wrecsam - Ipsen a Wockhardt UK - yn buddsoddi mewn safleoedd Gwyddelig rhag ofn bod angen cyfleusterau yn yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit.

Dywedodd Nick Davies o Ipsen: "Mae Brexit yn tynnu sylw ac yn creu gwaith i'r cwmni a'r diwydiant ym Mhrydain, mae wedi arwain at greu safleoedd newydd yn Iwerddon i ail-wneud profion rydyn ni'n eu gwneud yn y DU - mae hynny'n sicr yn wastraff adnoddau."

Yn ôl Sirjiwan Singh o Wockhardt: "Mae gwneud yr holl weithgareddau rheoleiddio, trwyddedu ac ati ddwywaith yn mynd i gael effaith sylweddol arnom ni."