Carwyn Jones: 'Porthladdoedd ddim yn barod am Brexit'

  • Cyhoeddwyd
Porthladd Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Porthladd Caergybi yn un o'r prysuraf yn y DU

Nid yw porthladdoedd Cymru yn barod i ddelio ag effaith posib Brexit heb gytundeb, yn ôl y Prif Weinidog.

Dywedodd Carwyn Jones fod gwaith yn cael ei wneud tu ôl i'r llen, ond "na fyddai hi'n bosib lleihau effaith" gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Pwysleisiodd Prif Weinidog Iwerddon bwysigrwydd parhau â'r lefelau masnach uchel rhwng Dulyn a Chaergybi ar ôl Brexit.

Yn ôl y gweinidog o swyddfa'r cabinet, David Lidington, byddai sicrhau cytundeb Brexit o fudd i bawb.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth y DU, Dominic Raab, ei feirniadu am ddweud nad oedd wedi "deall pwysigrwydd" y fasnach rhwng Dover a Calais.

Ar hyn o bryd mae tua 70% o lwythi Iwerddon ar gyfer marchnadoedd y DU a'r UE yn pasio drwy borthladdoedd Cymru.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Taioseach Iwerddon, Leo Varadkar ei fod yn ymwybodol o bwysigrwydd y cysylltiadau â Chaergybi

Mewn cyfarfod o Gyngor Prydain-Iwerddon ar Ynys Manaw, dywedodd Taioseach Iwerddon ei fod yn "ymwybodol iawn" o bwysigrwydd y cysylltiadau rhwng Dulyn a Chaergybi.

Ychwanegodd Leo Varadkar: "Dim y cysylltiad rhwng Dulyn a Chaergybi yn unig sy'n bwysig, dyma'r bont i weddill y DU.

"Mae cyfran uchel iawn o'n masnach gydag Ewrop yn pasio drwy Gaergybi ac yna ymlaen drwy Dover a Chalais.

"Fy amcan o ran masnach yw gwneud popeth o fewn fy ngallu i osgoi ffiniau newydd rhyngom ni, a dyna roddodd yr UE i ni, masnach heb ffiniau rhwng Prydain, Iwerddon a gweddill yr UE."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mr Jones gall ffiniau newydd arwain at fwy o oedi mewn masnach

Dywedodd Mr Jones nad yw unrhyw borthladd yng Nghymru yn barod i ddelio gyda methiant yn nhrafodaethau Brexit.

"Rydyn ni wedi bod yn edrych ar y peth ac yn datblygu cynlluniau o ran sut i ymdopi, ond y gwirionedd yw wrth gwrs... y bydd mwy o wiriadau tollau... fyddai'n arwain at fwy o oedi," meddai.

Cyn y cyfarfod dywedodd Mr Jones fod y modd y mae Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau Brexit ar fai am ddiswyddiadau posib mewn ffatri ceir yn Llanelli.

Dywedodd y Prif Weinidog y gellir osgoi'r "pryder" pe bai gweinidogion yn San Steffan yn glir y bydd cytundeb Brexit gyda'r Undeb Ewropeaidd yn dod.