Slaymaker: Y dydd wnes i gyfweld â Stan Lee

  • Cyhoeddwyd
stan Lee aSpiderman

Y beirniad ffilmiau a'r cyflwynydd Gary Slaymaker sy'n cofio cwrdd â'r diweddar Stan Lee, creawdwr Spider-Man a'r Incredible Hulk ac archarwyr eraill comics a ffilmiau Marvel, sydd wedi marw yn 95 mlwydd oed.

Yn wahanol i lawer sy'n cwrdd â'u harwyr, chafodd o 'mo'i siomi...

"Ble wyt ti'n dachre trafod rhywun sydd wedi bod yn rhan mor amlwg a phwysig o dy fywyd; mae ei farwolaeth bron fel colli aelod o'r teulu?

"Ges i'r fraint rhyfedda o gyfweld â Stan nôl ym 1990, yn swyddfeydd Marvel, yn Efrog Newydd. Nawr, 'wy 'di cadw cwmni 'da ambell enw mawr dros y blynyddoedd, ond dyma'r tro cynta erioed i fi deimlo'n nerfus.

"O'n i ddim jyst yn cwrdd â seren, o'n i'n cwrdd â STAN BLYDI LEE!!!! Wrth lwc, o'dd digon o sens 'da fi ofyn cwestiynau call, a bihafio'n hunan; ond allen i ddim gofyn am gwell cwpwl o oriau.

"Ro'dd e'n ddoniol, yn fonheddig, ac yn dipyn o strab hefyd. O'n i wedi dychmygu (a gobeithio) bydde fe'n ddyn arbennig, a ges i ddim o'n siomi. Ma' nhw'n gweud 'tho chi beidio cwrdd â'ch arwyr, ond y bore hynny, nes i gwrdd â'r arwr nath greu arwyr; a fyddai wastad yn ddiolchar am y profiad, a'r atgof 'na.

Ffynhonnell y llun, Slaycorp
Disgrifiad o’r llun,

Gary Slaymaker, am Stan Lee: "Ro'dd e'n ddoniol, yn fonheddig, ac yn dipyn o strab hefyd..."

"Ro'wn i'n 10 oed pan brynes i'n nghomic Marvel cynta. Ymysg pentwr bach o gomics Americanaidd, mewn siop bapurau yn Llandeilo, 'wy'n cofio bachu Batman, Sub-Mariner, Hulk, a Spider-Man.

"Cwpwl o flynyddoedd yn ddiweddarach, ro'dd Marvel yn rhyddau copïau du a gwyn o hanesion rhai o'u harwyr Americanaidd ar gyfer y farchnad Brydeinig - Mighty World of Marvel, Titans, Planet of the Apes - pob un ar ordor 'da fi yn y siop bapurau leol yn Llambed. Ac unwaith y mis, bydde 'na outing lawr i Abertawe; ac ynghanol y farchnad, ro'dd stondin lyfrau o'dd yn gwerthu copïau gwreiddiol o gynnyrch Marvel, wedi'i allforio mewn i'r wlad. Do'dd dim stop arna'i wedyn.

"Yn y dyddie cynnar, yr arwyr odd yn dala'r sylw drwy'r amser, ond unwaith bo fi yn fy arddegau, ro'dd na un enw odd wastod yn sefyll allan, naill ai ar glawr pob comic, neu ar y dudalen gynta' - Stan Lee.

Ffynhonnell y llun, Marvel Entertainment

"Stan, wrth gwrs, nath greu Spider-Man, yr Hulk, y Fantastic Four, a'r X-Men; ymysg llu o arwyr lliwgar eraill. Dyddie hyn, ma storïwyr ac artistiaid yn cael canmoliaeth am greu un arwr/arwres, a gwneud dim ond adrodd ei hanesion nhw; ond ro'dd gan Stan llond lori o arwyr, wnaeth neidio allan o'i ddychymyg rhyfeddol.

"Ma hwnna, yn ei hunan, yn rheswm i ryfeddu at allu'r dyn; ond ro'dd e hefyd yn llysgennad rhyfeddol i Marvel dros y blynyddoedd - yn chwifio baner y cwmni mewn cyfweliadau radio a theledu; ac wrth gwrs ma' pob cameo wnaeth y dyn yn y ffilmiau Marvel sydd wedi ymddangos yn y ddegawd ddiwetha yn destament i'w bresenoldeb, personoliaeth, a gallu i hunan-hyrwyddo'n well nag unrhyw un.

"Nath Stan gyflwyno bydoedd newydd cyffrous i fi; cynnig gwersi moesol yn ei golofn fisol Stan's Soapbox (yng nghefen y comics), a 'neud i fi sylweddoli bod pawb yn arwr yn ei ffordd arbennig ei hun.

"O'dd y boi flynyddoedd o flaen ei amser. Y llinell orau i fi glywed yn yr oriau ers i'r newyddion dorri am farwolaeth Stan Lee yw hon - 'He died at 95, and the world's 14 year olds are in tears. That's a pretty great accomplishment'.

"Nag yw e jyst. Nos da Stan; a diolch o waelod calon. Excelsior!"

Ffynhonnell y llun, Marvel Entertainment
Disgrifiad o’r llun,

Stan Lee yn un o'i 'cameos' enwog, y tro yma fel swyddog diogelwch yn y Smithsonian yn 'Captain America: The Winter Soldier'