Apêl am £50,000 i godi cofeb i Tom Pryce yn Ninbych
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn gobeithio codi £50,000 i greu cofeb barhaol i Tom Pryce, yr unig Gymro i ennill ras Fformiwla 1, yn ei dref enedigol "go iawn" yn Ninbych.
Llwyddodd Tom Pryce i ennill Ras y Pencampwyr Fformiwla 1 a dod yn drydydd yn Grand Prix Awstria a Brasil, cyn iddo gael ei ladd mewn damwain yn ystod Grand Prix De Affrica yn 1977 pan oedd yn 27 oed.
Cafodd ymgyrchwyr eu hysbrydoli gan lwyddiant arddangosfa dros dro i gofio'r gyrrwr rasio yn yr amgueddfa yn Ninbych.
Yn ôl un o'r ymgyrchwyr, mae codi cofeb barhaol yn bwysig i gofio am y gyrrwr rasio, "ond hefyd mae'r un mor bwysig ar gyfer Dinbych ei hun".
Ysgogi balchder lleol
Mae'r cerflunydd Nick Elphick - a greodd y cerflun o HM Stanley sy'n y dref - yn awyddus i wneud cerflun o Tom Pryce, ac eisoes wedi dechrau braslunio a chreu cerfluniau bychan ohono.
"Beth hoffwn wneud yw ceisio lleisio ei hanes a dwi'n meddwl y byddai'n ffantastig i Ddinbych," meddai.
"Dwi'n bwriadu ei astudio'n fanwl a dwi'n gobeithio gwneud jobyn da o ddangos pwy oedd o, a chreu rhywbeth pwerus, gan fy mod yn teimlo y bydd yn ysgogi cymaint o falchder yn lleol."
Mae yna furlun yn dathlu cyraeddiadau Tom Pryce yn Rhuthun ac mae rhan o Drac Môn wedi enwi ar ei ôl.
Fodd bynnag, dywedodd Dave Jones, un o ffrindiau Tom Pryce, ei bod hi'n bryd i Ddinbych "ail-hawlio" y gyrrwr rasio, gan ei fod "yn fwy o hogyn Dinbych" na Rhuthun.
Pwysigrwydd arwyr lleol
Dywedodd Mr Jones: "Mae 'na bendant angen cofeb barhaol nawr. Mi ddylai fod wedi digwydd blynyddoedd yn ôl. Gallwn ni ddim gadael i'r cyfle yma i fynd.
"Byddai mor bwysig er mwyn cofio Tom, ond hefyd mae'r un mor bwysig ar gyfer Dinbych ei hun, gan ei fod yn un o feibion enwog y dref, a dyma obeithio y cawn gefnogaeth wrth bawb."
Roedd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas ymhlith y rhai aeth i gefnogi'r arddangosfa yn amgueddfa Dinbych, a dywedodd y byddai'n "addas iawn" cael cofeb barhaol i Tom Pryce yn y dref.
"Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig iawn bod cof am Tom yn parhau, yn enwedig yn yr ardal yma, ond ein bod hi hefyd yn gallu pwysleisio pwysigrwydd arwyr tebyg," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2017
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2012