Ymgais i ailagor eglwys fel canolfan gymunedol
- Cyhoeddwyd
Mae menter newydd wedi'i sefydlu yn Silian, ger Llanbedr Pont Steffan, gyda'r nod o ail-agor Eglwys San Silian fel canolfan gymunedol.
Mae'r fenter wedi sicrhau les hirdymor gyda'r Eglwys yng Nghymru, ac mae astudiaeth ddichonoldeb eisoes wedi'i chynnal.
Gobaith y gwirfoddolwyr yw y bydd yr eglwys yn ailagor fel canolfan amlbwrpas, fydd o bosib yn cynnig cyswllt gyda'r we i ardal sy'n cael trafferthion.
'Ar flaen y gad'
Dywedodd Siw Jones o Fenter Eglwys San Silian: "Mae'n her fawr, ond mae'r lle yma yn golygu cymaint i ni.
"Mae 'na ddyhead cryf y dylen ni o leiaf drio - a thrio yn galed iawn - i wneud rhywbeth.
"Mae yna enghreifftiau o bobl sydd wedi mynd ati i sefydlu canolfannau cymunedol, nid gydag eglwysi gymaint falle - ni o bosib ar flaen y gad o ran hynny - ond bydd mwy a mwy o hyn yn digwydd.
"Ni yn teimlo yn hyderus y bydd yna alw a diddordeb ac y bydd y prosiect yn llwyddiant."
Does dim siop, swyddfa bost na neuadd bentref yn Silian, ac mae'r gwirfoddolwyr yn teimlo bod angen rhyw fath o adeilad fydd at ddefnydd y trigolion lleol.
Mae holiaduron wedi'u darparu i bobl yr ardal, ac mae sawl syniad o ran y defnydd posib o'r adeilad.
'Gweithio'n galed'
Dywedodd Eryl Evans, cynghorydd cymuned Silian a Llangybi, ei bod yn hyderus y bydd y prosiect yn enyn diddordeb.
"Un o'r pethau mwyaf pwysig sydd gyda ni i'w gynnig yw'r posibilrwydd o gynnig cyswllt we band eang yma," meddai.
"Does dim cyswllt band eang yn y pentref a byddai pobl yr ardal yn gallu defnyddio'r eglwys i wneud eu gwaith, neu i blant wneud eu gwaith ysgol.
"Ni wedi bod ddigon ffodus i gael arian grant gan y Gronfa Treftadaeth Pensaernïol a Cynnal y Cardi. Ni yn gwybod bod arian grant ar gael, ac ni'n gweithio'n galed i godi'r arian."
Bydd diwrnod agored ymgynghorol yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Llanbedr Post Steffan dydd Iau.