CBDC yn cyhoeddi enillwyr gwobrau pêl-droed llawr gwlad

  • Cyhoeddwyd
Ryan Giggs yn hyfforddiFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwobrau eu lansio ym mis Mai gan reolwr Cymru, Ryan Giggs

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi cyhoeddi enillwyr gwobrau pêl-droed ar lawr gwlad 2018.

Pwrpas y gwobrau yw rhoi cydnabyddiaeth i rai o glybiau ac unigolion sy'n helpu datblygu'r gêm yn lleol ac ar lefel rhanbarthol.

Ymysg yr enillwyr oedd Cynghrair Ieuenctid Llŷn ac Eifionydd, Clwb Pêl-droed Abergwaun, a'r hyfforddwr David Nickless.

Dywedodd Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth CBDC, Neil Ward: "Mae hi wastad yn grêt cael cyfle i ddysgu am arwyr pêl-droed yng Nghymru.

"Mae mwy o bobl ifanc yn chwarae pêl-droed nac erioed o'r blaen, ac mae'n rhaid i ni gydnabod y cannoedd o arwyr ar lawr gwlad sy'n ildio'i hamser bob wythnos be bynnag y tywydd."

Ychwanegodd bod yr ymddiriedolaeth yn gobeithio gweld 50% o blant Cymru yn chwarae pêl-droed unwaith yr wythnos erbyn 2024.

Yr enillwyr yn llawn:

  • Clwb Cymunedol y flwyddyn - Clwb Pêl-droed Abergwaun

  • Hyfforddwr Cymunedol y flwyddyn - Amlyn Ifans, Clwb Pêl-droed Bow Street

  • Cynghrair ieuenctid y flwyddyn - Llŷn & Eifionydd

  • Gwirfoddolwr y flwyddyn - Colin Jackson, Clwb Pêl-droed Penycae

  • Gwirfoddolwr ifanc y flwyddyn - Joseph Proietti, Cymdeithas Dyfarnwyr Port Talbot

  • Cyflawniad arbennig - David Nickless

  • Darparwyr 'Fun Football' y flwyddyn - Sports Xtra (Gwent)

  • Prosiect pêl-droed ar lawr gwlad y flwyddyn - Clwb Pêl-droed Merched St Florence (Dinbych-y-pysgod)

Derbyniodd David Nickless y wobr am gyflawniad arbennig yn y maes gan Ian Rush, mewn seremoni yn Stadiwm Dinas Caerdydd cyn i Gymru herio Denmarc nos Wener.

Yn ystod ei yrfa gyda Chymdeithas Bêl-droed ysgolion cynradd Sir Fflint, cyfrannodd Mr Nickless at hyfforddiant sawl enw mawr gan gynnwys Ian Rush, Gary Speed, Michael Owen a Wayne Hennessey.

Dywedodd Mr Ward: "Mae o [Mr Nickless] yn byw a bod pêl-droed ac wedi helpu datblygu talentau rhestr hirfaith o enwau mawr... mae o'n un o hoelion wyth y gêm ar lawr gwlad ac wedi helpu miloedd o bobl ifanc dros y blynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Amlyn Ifans, rheolwr yng Nghlwb Pêl droed Bow Street, oedd enillydd gwobr hyfforddwr cymunedol y flwyddyn

Cynghrair ieuenctid Llŷn ac Eifionydd oedd enillwyr y wobr am gynghrair ieuenctid y flwyddyn oherwydd eu "hangerdd" a'u gallu i ddarparu pêl droed i tua 800 o blant rhwng chwech ac 16 oed yng ngogledd Cymru.

Yn ôl CBDC mae'r gynghrair yn sicrhau fod cyfleusterau ar gael drwy gydol y flwyddyn, yn llwyddo i hyrwyddo'r ymgyrch 'Parch', ac wedi ymrwymo i sicrhau fod pêl-droed yn ffynnu yn eu hardal.

Amlyn Ifans o Glwb Pêl-droed Bow Street ger Aberystwyth oedd enillydd hyfforddwr y flwyddyn.

Cafodd ei gydnabod am ei ymdrechion wrth hyrwyddo pêl-droed merched yn yr ardal, yn ogystal â'i rôl fel hyfforddwr y tîm bechgyn dan 14.

Ychwanegodd Mr Ward: "Mewn blwyddyn lle mae pêl droed merched wedi datblygu cymaint... mae nifer o'r enillwyr wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion i ddatblygu'r gêm ymysg merched."