Eisteddfod Ffermwyr Ifanc ym Mro Morgannwg am y tro cyntaf

  • Cyhoeddwyd
xx
Disgrifiad o’r llun,

Y llenorion buddugol yn Eisteddfod CFfI 2017 - Naomi Nicholas, Penfro enillodd y Goron, a Llywela Edwards, Clwyd enillodd y Gadair

Mae trefnydd Ffederasiwn CFfI Bro Morgannwg wedi dweud bod y sir yn "gyffrous" i groesawu Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc i'r sir am y tro cyntaf erioed.

Ddydd Sadwrn bydd yr eisteddfod flynyddol yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo yn Y Barri, gan groesawu aelodau o glybiau ar hyd a lled Cymru.

Ac yn ôl Gwyneth Thomas, sy'n gyfrifol am drefnu clybiau'r sir, mae'n gyfle i'r Fro roi eu croeso eu hunain i'r ŵyl.

"'Dyn ni'n edrych 'mlaen at groesawu pawb yma - mae'n fraint fawr i ni gynnal digwyddiad fel hyn," meddai.

'Hyrwyddo'r iaith'

Mae Ms Thomas yn cydnabod fod Bro Morgannwg yn y gorffennol wedi byw yng nghysgod siroedd eraill yng ngogledd, canolbarth neu orllewin Cymru sy'n cael eu gweld fel ardaloedd cefn gwlad fwy traddodiadol.

"Rydyn ni'n sir weddol fechan, felly mae'n sicr yn fwy o her wrth geisio hyrwyddo'ch hunain," meddai.

"Mae'r rhan fwyaf o'n haelodau ni'n dod o gefndir ffermio, ond wrth gwrs yma ym Mro Morgannwg 'dyn ni wedi'n lleoli rhwng dwy ddinas fawr, Caerdydd ac Abertawe, felly mae hynny'n fwy o her."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y cystadlu'n digwydd yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Memo yn Y Barri

Yn ogystal â hynny, mae siaradwyr Cymraeg yn lleiafrif ymhlith clybiau ffermwyr ifanc y sir, rhywbeth arall sy'n eu gwahaniaethu nhw ag ardaloedd eraill.

"Rydyn ni'n sir ble mae'r mwyafrif yn siarad Saesneg. Ond rydyn ni hefyd yn gweld hwn fel cyfle i hyrwyddo'r iaith [yn y sir]."

Ond y gobaith, meddai, Ms Thomas, yw dangos y gallai'r cystadlu ddychwelyd i'r ardal yn fwy rheolaidd.

"Bydden ni'n croesawu cael yr Eisteddfod i ddod yn ôl yma'n amlach gyda breichiau agored."