Gweinidogion Cymru ddim yn cefnogi cynllun drafft Brexit
- Cyhoeddwyd
Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn cefnogi'r cytundeb drafft ar Brexit yn ei ffurf bresennol, yn ôl Ysgrifennydd Cyllid Cymru.
Roedd Mark Darkeford yn siarad ar ôl i weinidogion o San Steffan a'r gwledydd datganoledig gwrdd yn Llundain ddydd Llun.
Dywedodd Mr Drakeford fod y cyfarfod wedi bod yn un o "drafod plaen" ond bod neges glir wedi ei rhoi fod rhaid i weinidogion Bae Caerdydd fod ynghlwm wrth unrhyw drafodaethau yn y dyfodol am y berthynas gyda'r UE.
Dywedodd David Lidington, Gweinidog Swyddfa Cabinet San Steffan, fod y trafodaethau wedi mynd i'r afael â'r mater dan sylw.
Cyn cyfarfod cydbwyllgor gweinidogol y llywodraethau datganoledig roedd Mr Lidington wedi gofyn am gefnogaeth Llywodraethau Cymru a'r Alban i'r cytundeb drafft.
Dywedodd Mr Drakeford fod Llywodraeth Cymru am weld y DU yn parhau yn aelod o'r Undeb Tollau a'u bod am sicrhau "mynediad llawn a didramgwydd i'r Farchnad Sengl".
Mae disgwyl i bleidlais gael ei chynnal yn y Cynulliad i weld a yw ACau'n cefnogi'r cytundeb drafft.
Ond plediais aelodau Tŷ'r Cyffredin fydd yn y pendraw yn penderfynu ffawd y cytundeb.
Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi pwysleisio fod rhannau o'r cytundeb drafft yn cynnwys meysydd a phwerau sydd wedi eu datganoli i Gymru.
"Yn y cyd-destun yna, dyw gweinidogion o Loegr ddim mwy na gweinidogion o Loegr, nid ydynt yn weinidogion ar gyfer y DU, mae ganddynt gyfrifoldeb dros Loegr, felly mae angen i'n lleisiau ni a'n blaenoriaethau ni gael eu hadlewyrchu yn y trafodaethau."
Dywedodd Mr Lidington: "Mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi ei gwneud hi'n glir, fel roedd disgwyl iddynt wneud, y gwahaniaethau gwleidyddol sy'n bodoli o ran cyfeiriad y trafodaethau ynglŷn â'r dyfodol gydag Ewrop.
"Ond fe gafwyd trafodaethau gwerthfawr ynglŷn â'r newidiadau byddant yn hoffi eu gweld i'r cytundeb drafft - y pethau maen nhw'n credu sydd angen eu pwysleisio yn fwy.
"Rwyf wedi addo y bydd eu daliadau yn cael eu lleisio yn uniongyrchol i'r prif weinidog a'i thîm."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2018