Cymru v Albania: Gofid wedi amodau 'peryglus' y stadiwm
- Cyhoeddwyd

Cefnogwyr Cymru'n ciwio i fynd i mewn i'r gêm nos Fawrth a'r gatiau achosodd drafferthion
Mae pryderon wedi codi yn dilyn gêm Cymru yn erbyn Albania neithiwr ar ôl i gefnogwr ddisgrifio peryglon trefniadau'r stadiwm.
Yn ôl Gary Pritchard, cefnogwyr ers dros 20 mlynedd, gallai diffyg rheolaeth y stiwardiaid dros y dorf fod wedi achosi damwain.
Dywedodd ar raglen raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru fore Mercher: "Y broblem fwyaf oedd bod gennych chi gyn lleied o giatiau i'r cefnogwyr fynd i mewn.
"Roedden nhw'n gwybod bod yna 1,800 o Gymru yn dod i'r gem. Roedd yna ddwy giât gyda dau turnstile oedden ni fod i fynd i. Roedden ni'n ciwio jyst o dan awr cyn i'r gêm gychwyn.
"Wrth inni nesáu at y giât a chulhau ac wrth inni nesáu at y cic off a chlywed yr anthem roedd pobl eisiau mynd i mewn. Doedd un o'r turnstiles ddim yn gweithio felly oedd pobl yn cael ei gwthio at un turnstile.

Colli oedd hanes Cymru yn Elbasan
"Do, aeth hi reit flêr. 'Oeddan ni reit ffodus bod 'na ddim byd gwaeth wedi digwydd na phobl wedi cael eu gwasgu yn erbyn y turnstiles a methu mynd i mewn ar amser.
"Dywedodd un stiward wrth bawb i beidio a gwthio a chafodd hynny ddim effaith. Doedd na'm llawr o ymateb gan y stiwardiaid eraill i fod yn onest."
Collli oedd hanes tim pêl-droed Cymru neithiwr o 1-0 yn y gêm gyfeillgar yn Albania.
Mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r digwyddiad ond na fydden nhw'n gwneud sylw pellach.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018