Gêm gyfeillgar: Albania 1-0 Cymru
- Cyhoeddwyd
Mewn gêm hanesyddol ble dorrodd Chris Gunter y record am y nifer mwyaf o ymddangosiadau rhyngwladol i dîm dynion Cymru, colli oedd hanes tîm Ryan Giggs o 1-0 mewn gêm gyfeillgar oddi cartref yn Albania.
Fe arweiniodd Gunter y tîm allan fel capten i ennill cap rhif 93, a thorri record y golwr Neville Southall wnaeth ymddeol o bêl-droed rhyngwladol yn 1997.
Fe ddechreuodd Cymru'r gêm gyda dau chwaraewr yn ennill eu capiau cyntaf.
Roedd amddiffynnwr Anderlecht James Lawrence a chwaraewr canol cae Abertawe, Dan James yn dechrau dros eu gwlad am y tro cyntaf.
Bratiog
Mewn hanner cyntaf bratiog, gyda nifer o droseddau, prin iawn oedd y cyfleoedd i'r naill dîm.
Fe gafodd David Brooks gyfle wedi chwarter awr ond roedd y bas gan Harry Wilson ychydig yn rhu nerthol i Brooks ei rheoli.
Fe gafodd Wilson gyfle gyda chic gosb o bell ond fe aeth ei ergyd heibio'r postyn.
Fe ddylai Sam Vokes fod wedi sgorio munud cyn yr egwyl. Pas ddeallus gan Brooks a'r golwr Berisha, yn arbed.
Yn debyg iawn i ddiwedd yr hanner cyntaf, fe ddylai Vokes fod wedi sgorio o ddwy lath yn dilyn peniad lawr gan Tom Lockyer.
Yn hytrach na bwrw'r bêl i gefn y rhwyd fe basiodd Vokes y bêl yn syth i ddwylo'r golwr.
Daeth gôl gyntaf y gêm o'r smotyn wedi 57 munud yn dilyn trosedd gan Harry Wilson ar Taulant Xhaka yn y cwrt cosbi. Bekin Balaj sgoriodd y gic.
Yn syth wedi'r gôl daeth Gareth Bale ymlaen o'r fainc yn lle David Brooks.
Capiau cyntaf
Fuodd bron i Albania sgorio eu hail o'r noson wedi 75 munud, croesiad i'r cwrt cosbi ac Uzuni darodd y bêl dros y trawst.
Daeth Rabbi Matondo a Kieron Freeman ymlaen i ennill eu capiau cyntaf gyda 12 munud o'r gêm yn weddill.
Roedd cyflymdra Matondo yn achosi problemau i amddiffyn Albania lawr yr asgell chwith a llwyddodd i ennill sawl cic gornel i Gymru.
Fe gafodd Ben Woodburn gyfle wedi 87 munud yn dilyn pas i'r cwrt cosbi gan Aaron Ramsey, ond roedd ei ergyd yn llawer rhu wan i drafferthu'r golwr.
Daeth cyfle olaf Cymru yn y funud olaf i Gareth Bale, ond fe darrodd ei gic rydd yn erbyn mur amddiffynol y tîm cartref.
Daeth y gêm ryngwladol olaf Cymru yn 2018 i ben gyda chanlyniad siomedig, ond llwyddodd pedwar wyneb newydd ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf dros eu gwlad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2018