Ras seiclo Velothon Cymru yn dod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr ras seiclo Velothon Cymru wedi cyhoeddi na fydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn 2019 na thu hwnt i hynny.
Daw'r penderfyniad wedi trafodaethau rhwng IRONMAN, perchnogion cyfres Velothon, Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru a Run 4 Wales - y cwmni sydd wedi bod yn cynorthwyo i gynnal y digwyddiad.
Yn 2018 fe ddenodd y digwyddiad dros 8,000 o seiclwyr ond mae'r trefnwyr yn dweud nad oes ganddynt fodel cynaliadwy ar gyfer y digwyddiad yn y dyfodol.
Dywedodd y trefnwyr bod y digwyddiad wedi dangos Cymru ar ei orau a bod seiclwyr a fu'n cymryd rhan rhwng 2015 a 2018 wedi cael profiadau bythgofiadwy.
Ychwanegon nhw eu bod am ddiolch i bobl Cymru ac i bawb a fu'n rhan o lwyddiant y digwyddiad.
Dywedon nhw hefyd bod y digwyddiad wedi annog y genhedlaeth nesaf o seiclwyr ac wedi dangos fod Cymru yn lle da ar gyfer digwyddiadau seiclo mawr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd22 Mai 2016