Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-2 Leyton Orient

  • Cyhoeddwyd
pel droedFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe rwydodd Macauley Bonne a James Brohpy yn hwyr yn y gêm i ymestyn mantais Leyton Orient ar frig y Gynghrair Genedlaethol.

Er i Wrecsam reoli'r chwarae am gyfnodau hir o'r gêm, nid oedd tîm Sam Rickets yn gallu osgoi eu colled gyntaf yn y Cae Ras y tymor hwn.

Prin oedd y cyfleodd gwirioneddol i naill dim neu'r llall, ond aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi ergyd Bonne o gic gornel gyda phum munud yn weddill.

Wrth i Wrecsam wthio chwaraewyr ymlaen i geisio unioni'r sgôr fe fanteisiodd Brophy i fynd a'r gêm tu hwnt i afael y Dreigiau.

Mae Wrecsam bellach yn y drydydd safle yn y tabl.