Y golled deuluol tu ôl i her Tashwedd Daf Du

  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n fis Tashwedd, sef y mis pan mae dynion yn ceisio tyfu mwstash er mwyn codi arian i elusennau iechyd dynion.

Un sydd wedi bod yn tyfu ei flew eleni yw cyflwynydd Radio Cymru 2, Dafydd Meredydd, sydd yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl ymysg dynion. Collodd ei ewythr i hunanladdiad pan oedd yn ifanc.

Yn y DU, mae dynion dair gwaith yn fwy tebygol o gymryd eu bywyd na merched.

Yma, mae Dafydd yn siarad am y golled a effeithiodd arno ef a'i deulu, a phwysigrwydd siarad am eich teimladau.

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Meredydd a'i fwstash arbennig ar ddiwedd mis 'Tashwedd'

Oedd tyfu mwstash ar gyfer Tashwedd yn dipyn bach o jôc ond 'nath o 'neud i fi feddwl fwy am iechyd dynion, yn arbennig hunanladdiad gan ddynion gan fod o'n rhywbeth sy' wedi effeithio fy nheulu i flynyddoedd yn ôl.

Pan o'n i tua deg mlwydd oed, collais fy Yncl Harry. 'Oedd o'n gymeriad hoffus tu hwnt, gyda hiwmor y chwarelwr. 'O'n i ddim yn cael cyfle i ddweud lot wrtho achos 'oedd o'n gymaint o dynnwr coes, yn gwneud i ni chwerthin drwy'r amser. Fasa rhywun byth, byth yn meddwl fasa fo'n rhywun oedd yn dioddef iselder nac yn cyrraedd y pwynt o ystyried hunanladdiad - ond eto, dyna beth wnaeth o.

A hyd heddiw 'does neb yn gwybod pam wnaeth o 'neud.

Cefndir caled

'Oedd ei gefndir o'n galed ac yn drist. 'Da ni'n deulu bach ac oedd o a'i wraig, Anti Jini, yn deulu agos, yn byw ychydig filltiroedd i fyny'r mynydd wrtho ni yn Ceunant, ar y mynydd uwchben Llanrug. 'Oedden nhw'n byw yn Nhŷ Uchaf sef y tŷ uchaf ar y mynydd - Harry Tŷ Uchaf oedd ei lysenw.

'Oedd bywyd yno'n galed - 'oedd o'n ffermwr defaid ac hefyd yn gweithio fel chwarelwr, yn cerdded ar draws y mynydd i'r chwarel i weithio. 'Oedd ganddo fo un bys oedd o'n methu sythu oherwydd fod llechen wedi torri ar draws ei law o.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Meredydd
Disgrifiad o’r llun,

Yncl Harry ac Anti Jini

'Oedd o hefyd wedi profi colled - roedd ganddo un mab, John, fu farw'n ifanc. Roedd yn epileptic a bu farw yn ei ugeiniau cynnar.

Doedd dim arwydd o iselder. Dw i ddim yn meddwl fod o erioed wedi siarad am ei deimladau efo unrhyw un. Mi oedd 'na awgrym bod o'n dechrau mynd yn rhy hen i ffermio ar ochr mynydd, dw i ddim yn gwybod os oedd hwnna'n rhan o'r rheswm dros be' wnaeth o.

Teimlad o embaras

Dw i'n cofio'r diwrnod pan ddigwyddodd yr hunanladdiad. Dw i'n cofio eistedd ar dop y grisia a gwrando ar yr oedolion yn siarad ac 'o'n i'n gwybod fod rhywbeth yn wahanol am ei farwolaeth. Eto pan o'n i'n holi amdano fo, oedd pob dim yn hysh-hysh a neb eisiau siarad. Bron iawn bod 'na deimlad o embaras bod o wedi digwydd.

'Tasa rhywun wedi siarad â fo a 'tasa fo wedi teimlo'n gyfforddus i siarad efo rhywun, siawns falle bydde fo wedi medru ffeindio help a fydda hyn ddim wedi digwydd.

Roedd yn sioc i'w wraig a bu hi'n byw efo ni yn y tŷ yn Llanrug am flwyddyn. Roedd yn gyfnod anodd iawn iddi hi a dw i'n cofio hi'n ddagreuol ar sawl achlysur. Oedd hi hefyd yn berson hyfryd - dynes radlon, llawn hiwmor. Hyd yn oed yn y cyfnod yma roedd lot o chwerthin ond doedd hi ddim yn siarad am yr hunanladdiad o gwbl.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Meredydd
Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Meredydd yn blentyn

Dw i ddim yn meddwl bod Yncl Harry o genhedlaeth oedd yn rhannu. Dw i'n meddwl amdano lot. Dw i'n gofyn y cwestiwn - pam? Beth 'nath 'neud iddo fo fynd i'r tywyllwch a theimlo taw dyna'r ffordd allan iddo fo? Mae'n rhyfedd.

'Da ni'n byw mewn oes wahanol rŵan ac mae pobl yn siarad - ond eto, pan wnaethon ni gychwyn y busnes Tashwedd yma, darllenon ni fod un dyn bob munud yn cymryd ei fywyd ei hun ar draws y byd. Mae 75% o hunanladdiadau ar draws Prydain gan ddynion.

Siarad am deimladau

Dw i'n cymharu fy hyn gyda fy ngwraig, sy'n agored iawn ac yn ffeindio hi'n hawdd i siarad am deimladau. Dw i ddim - pan mae rhywbeth yn fy mhoeni i, dw i ddim yn gweld hi'n hawdd i rannu gyda fy nheulu, ffrindiau na chydweithwyr. Dw i lot mwy tebygol o jest cario 'mlaen.

Dw i'n gobeithio os fyddwn i'n cyrraedd y pwynt yna, ar ôl meddwl am ein profiadau ni fel teulu ac am Yncl Harry, gobeithio fyddwn i'n fwy parod i chwilio am help ac i rannu a siarad gyda'r teulu yn gyntaf.

Ffynhonnell y llun, Dafydd Meredydd
Disgrifiad o’r llun,

Yncl Harry ac Anti Jini tu allan i Tŷ Uchaf, Ceunant

'Taswn i'n cael y cyfle i fynd yn ôl, dw i'n gobeithio fyddwn i'n medru siarad efo fo a gofyn sut mae o, achos doedd hwnna ddim yn rhywbeth oeddan ni'n gofyn bryd hynny.

'Taswn i wedi gofyn iddo fo, 'sut wyt ti'n teimlo? Oes 'na benderfyniad o dy flaen di, wyt ti'n mynd i orfod gadael y fferm, wyt ti'n mynd i orfod symud lawr i'r dyffryn, sut ti'n teimlo am hynny?', fydde' fo wedi medru rhannu wedyn.

Neu jyst gofyn iddo am ei deimladau am golli ei fab yn hogyn mor ifanc. Mae'n rhaid bod hynny wedi creithio, mae'n rhaid bod hynny wedi gadael ei ôl arno fo. Ond doedd neb yn gofyn y cwestiwn, doedd 'na neb yn siarad am deimladau ac emosiynau yn y cyfnod yna.

Roedd o'n sioc. I fi mae'n fater sy' wedi gwneud i fi feddwl lot dros y blynyddoedd, amdano fo ac am beth sy'n gyrru rhywun i le sy' mor dywyll taw dyna yw'r opsiwn maen nhw'n teimlo sy' orau iddyn nhw. A ffeindio fo'n anodd dychmygu beth oedd o'n mynd trwyddo fo a theimlo'r tristwch mawr drosto fo a dros Anti Jini o ran colli ei mab ac wedyn colli ei gŵr.

Teimlad o dristwch mawr dros y ddau ohonyn nhw.

Hefyd o ddiddordeb