Dyfodol ffordd liniaru'r M4 yn nwylo'r arweinydd nesaf?

  • Cyhoeddwyd
M4
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r cynllun gostio hyd at £1.4bn i'w gwblhau

Gall y penderfyniad terfynol ar ddyfodol cynllun i adeiladu ffordd liniaru'r M4 gael ei wneud gan y Prif Weinidog nesaf, yn ôl Carwyn Jones.

Dywedodd yr arweinydd presennol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn adroddiad 580 tudalen gan gynllunwyr yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus.

Yn y gorffennol mae Mr Jones wedi dweud mai ef byddai'n gwneud y penderfyniad terfynol cyn iddo ymddiswyddo ym mis Rhagfyr.

Ond wrth siarad gyda'r BBC bore dydd Sul, dywedodd "na allai'r penderfyniad gael ei ruthro".

Mae Llywodraeth Cymru eisiau adeiladu ffordd newydd 14 milltir o hyd i'r de o Gasnewydd.

Y bwriad yw lleihau tagfeydd o gwmpas twneli Brynglas ond mae cadwraethwyr yn dadlau byddai'r cynllun yn "ymosodiad uniongyrchol ar natur".

Ar ôl penderfynu ar ddyfodol y cynllun roedd disgwyl cynnal pleidlais ystyrlon yn y Cynulliad ym mis Rhagfyr.

Ond dywedodd Mr Jones wrth BBC Radio Wales nad yw hi'n bendant mai ef bydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, er mai dyna'r bwriad dal i fod.

"Dyma'r fath o benderfyniad lle fydd pobl yn anhapus gada naill ganlyniad neu'r llall, a gyda'r posibilrwydd o bobl yn mynd a'r achos i'r llys mae'n rhaid dilyn y prosesau cywir."

Yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yw'r ffefryn i olynu Mr Jones fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, ac mae cred ei fod yn fwy amheus o'r cynllun.

Mae Vaughan Gething ac Eluned Morgan, sydd hefyd yn y ras i olynu'r Prif Weinidog, i'w weld yn fwy agored i'r datblygiad.