'Mr Criced' Dolgellau ydy Gwirfoddolwr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae athro sy'n cael ei adnabod fel 'Mr Criced' Dolgellau wedi'i enwi fel Gwirfoddolwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru 2018.
Bydd Gareth Lanagan, sy'n dysgu Mathemateg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, yn derbyn y wobr mewn seremoni yn y Celtic Manor ar 4 Rhagfyr.
Mae'r prif hyfforddwr, capten y tîm cyntaf a'r cadeirydd wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ddatblygu Clwb Criced Dolgellau.
Mae'n angerddol am yr iaith Gymraeg a chwaraeon yng Ngwynedd, ac am gyflwyno'r gamp i gynulleidfaoedd newydd.
Sefydlodd dîm criced merched y llynedd ac mae wedi datblygu carfan iau lwyddiannus.
Dywedodd Mr Lanagan, sy'n byw yn Aberystwyth ond yn gweithio ac yn gwirfoddoli yn Nolgellau yn bennaf: "Mae'n braf i gael y gydnabyddiaeth.
"Ond yn benna' mae'n codi proffil Clwb Criced Dolgellau - ac mae hefyd yn dangos faint mae'r wraig yn cyfaddawdu!"
Mae'r clwb wedi'i drawsnewid dros y blynyddoedd diwethaf - ychydig flynyddoedd yn ôl roedd hi'n ansicr a fyddai'r clwb yn parhau i weithredu.
Erbyn hyn mae tua 200 o chwaraewyr yn cynrychioli'r clwb.
"Mae criced yn gêm sydd wedi rhoi cymaint i mi," meddai Mr Lanagan.
"Rydw i eisiau i eraill gael y cyfleoedd rydw i wedi'u cael.
"Y freuddwyd fyddai gweld un o'r ieuenctid rydw i'n eu hyfforddi'n cymryd fy lle i yn y tîm cyntaf ymhen blynyddoedd."
'Mr Criced'
Mae categori Gwirfoddolwr y Flwyddyn yn cydnabod unigolyn sy'n rhoi o'i amser i gefnogi, datblygu neu hyrwyddo chwaraeon.
Dywedodd Stuart Evans, wnaeth enwebu Mr Lanagan: "Rydyn ni wedi mynd o glwb oedd ddim ond yn goroesi i fod yn un sy'n ffynnu, diolch i Gareth.
"Weithiau rydw i'n amau ydy o'n cysgu! Mae wrth ei fodd gyda chriced a chlwb criced lleol Dolgellau.
"Fo ydi'n Mr Criced ni yn sicr."
Bydd mwy o enillwyr yn cael eu cyhoeddi wrth i'r wythnos yn mynd yn ei blaen. Yr enillwyr hyd yn hyn ydy:
Codi Allan, Bod yn Egnïol - Gwobr Cymru Actif 2018
Gareth Lanagan - Gwirfoddolwr y Flwyddyn 2018
Aled Jones-Davies - Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn 2018