Cynnal ymchwiliad annibynnol i Ysgol Uwchradd Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Uwchradd Aberteifi

Mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad annibynnol ar ôl derbyn cwynion gan dri gyn-aelod o staff Ysgol Uwchradd Aberteifi.

Mae'r sir yn gwrthod dweud beth yw natur y cwynion, nac os ydynt yn ymwneud ag un unigolyn yn benodol.

Dywed yr awdurdod eu bod yn cymryd unrhyw bryderon a godwyd ynghylch ymddygiad staff ysgol yn ddifrifol iawn.

Mewn datganiad dywed y sir fod 31 aelod o staff wedi gadael yr ysgol, sydd â 639 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed, ers Ebrill 2015.

Yn ôl y cyngor mae'r rhif yma yn llai nag ysgolion uwchradd o faint tebyg o fewn y sir dros yr un cyfnod.

"Mae tri aelod o staff o Ysgol Uwchradd Aberteifi, sydd ddim yn cael eu cyflogi gan yr ysgol bellach, wedi cyflwyno cwynion i'r cyngor.

"O ganlyniad, mae'r cyngor wedi cychwyn ymchwiliad annibynnol," meddai'r datganiad.

"Hyd yn hyn, does dim cyfarfod wedi bod rhwng y cyngor a chynrychiolwyr o'r undeb dysgu ynglŷn â'r honiadau yn Ysgol Uwchradd Aberteifi.

"Bydd unrhyw weithrediad, os oes angen, yn cael ei gymryd gan yr Awdurdod Addysg Lleol a llywodraethwyr yr ysgol yn dilyn casgliadau'r adolygiad.

"Ni fydd sylw pellach yn cael ei wneud tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal."

Yn y cyfamser mae Neil Butler, swyddog cenedlaethol yr NASUWT yng Nghymru, wedi cadarnhau wrth BBC Cymru bod yr undeb wedi derbyn cwynion gan aelodau presennol a chyn-aelodau o'r staff yn Ysgol Uwchradd Aberteifi ynglŷn â honiadau o "arferion rheoli andywol".

Mae'r undeb yn cynnal ymchwiliad i'r cwynion hynny ar hyn o bryd.

Mae'r ysgol yn un ddwyieithog gyda ffrydiau Cymraeg a Saesneg.