Gwella erbyn Cwpan y Byd yn 'nod' o hyd i Ellis Jenkins

  • Cyhoeddwyd
Ellis JenkinsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae blaenasgellwr Cymru, Ellis Jenkins yn dweud y bydd yn darganfod wythnos nesaf pa mor "ddifrifol" yw'r anaf a gafodd yn erbyn De Affrica.

Cafodd Jenkins ei anafu ym munud olaf yr ornest ddydd Sadwrn, a'r gred yw ei fod wedi gwneud niwed i gymalau yn ei ben-glin.

Ei obaith ar hyn o bryd yw y gallai dal ddychwelyd erbyn Cwpan y Byd, sy'n dechrau yn Japan ym mis Medi 2019.

"Dyna yw'r nod ar hyn o bryd tan mae rhywun yn dweud yn wahanol," meddai Jenkins.

"Dwi eisiau bod yn ôl yn chwarae a chwarae'n dda mor fuan â phosib."

'Anlwc pur'

Bydd Jenkins, 25, yn cael sgan yr wythnos nesaf i weld union natur yr anaf, ac fe allai orfod cael llawdriniaeth.

Roedd blaenwr y Gleision wedi cael ei enwi'n seren y gêm yn erbyn De Affrica cyn yr anaf, ac mae'n dweud ei fod yn difaru na wnaeth yr ornest orffen "30 eiliad yn gynt".

"Mae'n anlwc pur. Mae'n neis bod pobl yn fy llongyfarch i a phethau, ond mae'n anodd meddwl am hynny pan 'dych chi'n cael anaf cas ar ddiwedd y gêm," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'n neis cael y negeseuon yna ond mae e ychydig yn chwerwfelys. Pan 'dych chi'n teimlo fel eich bod chi'n chwarae'n dda 'dych chi eisiau cario 'mlaen."