Llywodraeth wedi rhoi £3m yn ormod i fyfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Bydd dim rhaid i fyfyrwyr, wnaeth dderbyn mwy na £3m mewn grantiau mewn camgymeriad, ad-dalu'r arian yn ôl Llywodraeth Cymru.
Rhoddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams AC, y bai ar "gamddehongliad gwirioneddol".
Cafodd y taliadau anghywir eu rhoi dros y 10 mlynedd diwethaf i fyfyrwyr ar gyrsiau dysgu o adref, er mai bwriad y grantiau oedd cefnogi myfyrwyr oedd yn mynd i'r colegau yn gorfforol.
Mae'r grantiau'n cael eu rhoi i gefnogi aelodau'r teulu sy'n ddibynnol ar y myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Cafodd yr arian ei roi gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a'r Brifysgol Agored.
'Wedi'i dalu'n ddidwyll'
Mae'r arian yn cael ei roi i helpu myfyrwyr sy'n edrych ar ôl aelodau teulu neu sy'n dibynnu arnyn nhw yn ystod eu hastudiaethau.
Cafodd cyfanswm o £3.25m o'r grantiau ei dalu yn anghywir dros y degawd diwethaf, gyda'r swm i gael ei ddileu gan Lywodraeth Cymru.
Mewn datganiad ysgrifenedig i aelodau cynulliad, dywedodd Ms Williams bod Cyllid Myfyrwyr Cymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru wedi talu'r arian "yn ddidwyll" ac "oherwydd camddehongliad gwirioneddol o'r rheoliadau".
Dywedodd Ms Williams y byddai myfyrwyr a ddechreuodd eu hastudiaethau cyn 2018 yn parhau i dderbyn y grantiau, a dywedodd na fyddai'n deg i gael gwared ar fynediad at y cymorth ariannol maen nhw wedi'i dderbyn hyd yn hyn.
'Wedi cael digon o gamreoli arian'
Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies wedi croesawu cyhoeddiad Kirsty Williams.
Ond mae hi'n cwestiynu pam fod y mater wedi cymryd degawd i'w ddatrys, ac yn cwestiynu cyfraniad Swyddfa Archwilio Cymru yn y mater.
"Mae Cymru wedi cael digon o'r llywodraeth hon yn colli ei harian trwy gamreoli," meddai.