Llawdriniaeth i dynnu syst 26 cilogram
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Abertawe wedi bod yn siarad am ei phrofiad ar ôl cael llawdriniaeth i dynnu syst ofarïaidd oedd yn pwyso cymaint â saith babi newydd-anedig.
O ganlyniad i'r llawdriniaeth, fe wnaeth pwysau Keely Favell, 28 oed, ostwng o draean. Dywedodd fod y llawdriniaeth wedi newid ei bywyd yn gyfan gwbl.
"Ro'n i'n cael y pethau mwyaf syml fel gyrru car neu gerdded y grisiau yn anodd," meddai.
"Mae cael gwared ar y lwmp wedi rhoi mywyd yn ôl - galla' i ddim diolch digon i'r llawfeddyg."
'Methu deall'
Fe ddechreuodd Keely fagu pwysau tua 2014.
"Rwyf o hyd wedi bod yn eitha' maint, ond dros y blynyddoedd fe wnaeth y bola ddechrau tyfu.
"O ni methu deall y peth - o ni'n bwyta'n iach ond eto o ni'n tyfu'n fwy.
"Dwi wedi bod gyda fy mhartner Jamie Gibbins am ddeng mlynedd, ac weithiau roedd y ddau ohonom yn dyfalu mod i'n feichiog, ond roedd y profion yn negyddol."
Ar ôl llewygu tra'n gweithio mewn swyddfa yn 2016 fe benderfynodd fynd i weld y meddyg teulu.
Dywedodd ar y dechrau roedd y meddyg teulu yn mynnu ei bod yn feichiog, er gwaetha profion gwaed yn dweud i'r gwrthwyneb.
"Wrth edrych arnaf roedd yn edrych fel fy mod naw mis yn feichiog. Roedd e'n embaras wrth geisio egluro i bobl fy mod ond yn rhy dew."
Fe wnaeth y meddyg teulu ei chyfeirio i gael prawf uwchsain a phrawf beichiogrwydd.
"Ond yn hytrach na dangos babi yn y groth, roedd y sgrin yn gwbl ddu," meddai Keely.
"Roedd wyneb y radiolegydd yn dweud y cyfan - roedd rhywbeth o'i le ac fe es i banig pan ddwedodd y radiolegydd fod angen gweld ymgynghorydd."
Cafodd scan CT ar frys, gyda'r sgan yna yn dangos presenoldeb syst wedi ei amgylchu gan hylif.
"Dywedodd yr ymgynghorydd wrthyf nad oeddwn yn dew o gwbl - a dweud y gwir o ni'n eitha' tenau - ond dywedodd fod yna sach 25 cm o drwch yn fy stumog."
Pan aeth am lawdriniaeth fis Mawrth y llynedd roedd Kelly yn pwyso ychydig dros 20 stôn ac yn absennol o'i gwaith oherwydd ei hiechyd.
Fe wnaeth llawdriniaeth yn Ysbyty Singelton, Abertawe, i dynnu'r syst 26 cilogram gymryd pum awr.
"Roedd y staff meddygol wedi eu synnu ar faint y syst, ac yn cymryd lluniau ohono.
"Roedd o'n edrych fel twlpyn mawr o hufen ia, ac fe wnes i fathu'r enw Mr Whippy arno."
Fe adawodd y llawdriniaeth graith o 30 cm a marciau.
"Yn 28 oed er nad wyf erioed wedi bod yn feichiog, mae wedi fy ngadael gydag olion cario babi."
Oherwydd y llawdriniaeth fe wnaeth hi orfod colli un ofari, ond dyw hynny ddim yn effeithio'i gallu i gael plant yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2018
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018