Achub 137 o anifeiliaid o loches ger Yr Wyddgrug

  • Cyhoeddwyd
Sicrhau diogewlch anifeiliaidFfynhonnell y llun, RSPCA

Mae 137 o anifeiliaid wedi cael eu hachub o loches ger Yr Wyddgrug oherwydd gofidiau ynghylch dyfodol y cwmni.

Cafodd yr anifeiliaid eu cludo o safle lloches Capricorn ddydd Mawrth wedi gofidiau am reolaeth gweinyddiaeth y cwmni, ac fe gafodd yr anifeiliaid eu cymryd i feddiant yr RSPCA wedi naw awr o sicrhau diogelwch yr anifeiliaid.

Yn ôl yr elusen doedd y safle ddim yn addas bellach.

Daeth y canfyddiadau ar ôl ymchwiliad gan y Comisiwn Elusennol i weinyddiaeth y safle'r llynedd yn dilyn pryderon ynghylch rheolaeth a diogelwch yr anifeiliaid.

Ym mis Rhagfyr 2016 fe ddatgelodd rhaglen BBC Cymru, Week In Week Out bod y safonau yn y lloches yn wael.

Yn ôl Martyn Hubbard o'r RSPCA: "Roedd y weithred o symud yr anifeiliaid yn un anodd a chymhleth gyda nifer fawr o anifeiliaid a rhywogaethau. Bydd yr RSPCA yn gweithio er mwyn sicrhau eu diogelwch ar gyfer y dyfodol."

Ymhlith yr anifeiliaid oedd:

  • 41 cath;

  • 17 aderyn;

  • 14 cwningen;

  • 10 ci;

  • 10 bochdew;

  • 8 mochyn cwta;

  • 5 madfall (dreigiau barfog);

  • 5 degw;

  • 5 o foch;

  • 5 ffured;

  • 3 neidr;

  • 2 gerbil;

  • tsintsila;

  • gŵydd.