Dyn busnes yn prynu Canolfan Bodnant yn Nyffryn Conwy
- Cyhoeddwyd
Mae Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn Nyffryn Conwy, oedd wedi ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr, wedi ei gwerthu i ddyn busnes lleol.
Cafodd y ganolfan ei sefydlu yn 2012 gyda chymorth £2.7m o arian cyhoeddus gan gyflogi 50 o bobl.
Ond ddechrau'r mis dywedodd y cyn berchnogion nad oedd y busnes yn gynaliadwy.
Y perchennog newydd yw Richard Reynolds, rheolwr-gyfarwyddwr cwmni Love To Eat.
Dywedodd Mr Reynolds: "Rwy'n gobeithio cael y busnes ar ei draed unwaith eto mor fuan â phosib, gan ddefnyddio'r enw Bodanant Welsh Food, gan barhau i hybu cig Cymreig o Ddyffryn Conwy er mwyn lles y gymuned leol."
Yr wythnos hon dywedodd bridiwr moch fod y Ganolfan wedi dangos "diffyg parch" i'w cyflenwyr wrth iddyn nhw fynd i'r wal.
Dywedodd Piggin Good Pork o Fae Colwyn eu bod yn debygol o golli born i £17,000.
Yn ôl y gweinyddwyr Smith Cooper mae'r perchnogion newydd wedi cadarnhau y bydd priodasau brecwast sydd wedi eu harchebu yn cael eu hanrhydeddu, ac fe fydd y perchnogion yn ystyried unrhyw flaendaliadau sydd wedi eu talu am ddigwyddiadau eraill.
Dywedodd y cyn berchennog Michael McLaren fod y newyddion yn galonogol.
"Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu ailgyflogi nifer o'r staff sydd wedi colli eu swyddi.
"Fe fydd y weledigaeth o Ganolfan Bwyd Cymru yn Nyffryn Conwy yn parhau ac yn ffynnu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2018