Dirwyo meddyg teulu £12,000 am fethu cofrestru
- Cyhoeddwyd
Mae meddyg teulu wedi cael dirwy o £12,000 am fethu â chofnodi'r driniaeth roedd yn ei gynnig i gleifion trawsryweddol gyda'r awdurdodau.
Roedd Dr Webberley wedi colli'r hawl i roi triniaeth i gleifion trawsryweddol heb oruchwyliaeth tra bod y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn ymchwilio i honiadau yn ei herbyn.
Bydd yn rhaid i Dr Helen Webberely, sy'n rhedeg clinig preifat yn Y Fenni hefyd dalu costau o £11,307.
Roedd Dr Webberley wedi dweud ei bod wedi symud ei gwasanaethau i Loegr, ond cyfaddefodd nad oedd wedi cofrestru ei gwasanaethau gydag archwilwyr yno chwaith.
Yn Llys Ynadon Merthyr fe gafodd cwmni Dr Helen Webberley, Online GP Services, hefyd ei ddirwyo £2,000.
Ymhlith y cwynion oedd ei bod wedi rhoi hormonau newid rhywedd i blant mor ifanc â 12.
Doedd hi heb gofrestru i ddefnyddio'r driniaeth dan sylw gydag Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru.
Roedd Dr Webberley wedi dweud bod y gwasanaeth roedd hi'n ei gynnig yn allweddol i gleifion.
'Trosedd ddifrifol'
Clywodd y llys fod y driniaeth hormonaidd yn achosi newid parhaol i'r corff, ac yn gallu effeithio'r gallu i genhedlu.
Roedd safle we yn enw Dr Webberley yn dweud "nid ydych byth yn rhy ifanc nac yn rhy hen i gael cymorth".
"Os ydych am ofal diogel a fforddiadwy i barhau â'ch newid (triniaeth trawsryweddol), neu os ydych yn barod i ddechrau ar yr holl broses yna cysylltwch â ni am gyngor."
Dywedodd Russell Davies, ar ran yr amddiffyniad, nad oedd "Webberley wedi sefydlu'r cwmni ar gyfer elw personol".
"Dyma ddoctor sy'n cynnig gofal, gwybodaeth a chyngor oedd ei gwir angen. Ond doedd ei busnes heb ei chofrestru," ychwanegodd.
Dywedodd iddi barhau i gynnal y clinig er gwaethaf gorchymyn i beidio oherwydd "ei bod yn credu y byddai rhoi diwedd i'r driniaeth yn niweidiol"
Dywedodd y Barnwr Neil Thomas fod yna benderfyniad clir i "beidio ufuddhau i'r gyfraith".
"Mae Webberley yn feddyg o brofiad sylweddol. Mae'r llys yn barnu'r drosedd hon yn un ddifrifol."
Ar ôl y ddedfryd dywedodd Dr Kate Chamberlain, prif weithredwr Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru: "Mae gofal iechyd sydd heb ei gofrestru yn gallu golygu risg uchel i ddiogelwch cleifion, gan nad ydynt dan yr un lefel o arolygaeth a gwasanaeth sydd wedi ei gofrestru."
Ar hyn o bryd mae cleifion trawsnewidiol Gymru yn cael eu cyfeirio i Loegr ar gyfer triniaeth mewn clinigau arbenigol.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething gyhoeddi y bydd gwasanaeth newydd ar gyfer oedolion yng Nghaerdydd yn derbyn cleifion o fis Mawrth eleni, ond mae oedi wedi bod wrth lansio'r gwasanaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2017
- Cyhoeddwyd25 Awst 2017
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2017