Morrisons yn ymddiheuro dros labelu cig oen Cymreig
- Cyhoeddwyd

Mae archfarchnad Morrisons wedi ymddiheuro am fethu ag arddangos y labeli priodol ar gig oen o Gymru.
Rhannodd un cwsmer - y ffotograffydd Emyr Young - lun o becyn cig oen Cymreig wedi ei frandio gyda baner Jac yr Undeb mewn archfarchnad yn Hwlffordd.
Daeth hefyd i'r amlwg nad oedd yna label PGI (Protected Geographic Indication) - sy'n statws arbennig wedi ei roi gan yr Undeb Ewropeaidd - ar rai cynnyrch, gan gynnwys cig oen a chig eidion Cymreig.
Ymddiheurodd Morrisons am gam-labelu'r cynnyrch penodol hwnnw yn eu siop yn Hwlffordd.
Yn dilyn y drafodaeth ar Taro'r Post ddydd Llun, cysylltodd siopwyr eraill a oedd wedi gweld labeli anghywir yn cael eu defnyddio ar gig Cymreig mewn archfarchnadoedd ledled y wlad.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i Morrisons am sylw pellach.
Y gŵyn wreiddiol
Ar raglen Taro'r Post BBC Radio Cymru ddydd Llun, dywedodd Mr Young: "Dwi'n amau mod i 'di corddi'r dyfroedd, a dwi wedi derbyn lot o ymateb, rhai yn gas a rhai eraill yn gefnogol dros ben a lot yn dod o'r Alban 'fyd lle mae 'da nhw hashtag maen nhw'n defnyddio fan 'na: 'If it's a Jack put it Back'."
Er ei fod wedi teimlo'n "grac" yn wreiddiol, ychwanegodd Mr Young ei fod yn "hapus" gydag ymddiheuriad cyntaf Morrisons.
"Mae'n dangos pŵer Twitter yn hyn o beth ac mae'n dda gweld eu bod yn syrthio ar eu bai," meddai.
Ond sylwodd Rhys Llywelyn, Pennaeth Marchnata Hybu Cig Cymru, nad oedd y label yn cynnwys logo PGI.
Esboniodd Mr Llywelyn am bwysigrwydd y label PGI: "Be' mae'n 'neud yw talu sylw i'r ffaith bod gyda ni ddulliau cynhyrchu arbennig, dulliau arbennig traddodiadol, sy'n golygu bod yr Undeb Ewropeaidd wedi penderfynu rhoi statws PGI iddo fe."

Mewn datganiad pellach, dywedodd Hybu Cig Cymru mai'r "manwerthwyr eu hunain sy'n gyfrifol am eu brandio a'u marchnata" a'u bod fel mudiad ond yn gallu annog archfarchnadoedd i ddefnyddio'r label PGI.
Mae'n rhaid defnyddio symbol yr Undeb Ewropeaidd ar gynnyrch sydd â statws PGI tra bod y Deyrnas Unedig yn rhan o'r undeb.
Yn ôl Mr Llywelyn, "eithriad" oedd y label cafodd ei ddarganfod gan Mr Young.
"Dwi'n derbyn eu hymddiheuriad nhw taw camgymeriad yw hwn," meddai. "Eithriad yw e, yn anaml iawn welwch chi'r fath yma o beth."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi "ymrwymo i hyrwyddo'r brand PGI ar Gig Oen Cymreig ym mhob marchnad".
Brandio 'diog'
Ar raglen Taro'r Post ddydd Mawrth, fe alwodd Dewi Eirig, arbenigwr gwefannau cymdeithasol ac ymgynghorydd marchnata, y label yn enghraifft o frandio "diog".
Dywedodd Mr Eirig: "Be' sy' 'di digwydd dwi'n meddwl yw bod y person sy'n 'neud y gwaith brandio i'r cwmni yn ddiog a ddim wedi gwneud eu gwaith cartref yn ddigon da."
Ychwanegodd Mr Eirig bod defnyddio baner Cymru a labeli PGI yn hybu gwerthiant cynnyrch.
"Mae [Cig Cymru] yn gynnyrch o safon. 'Da ni'n gwybod bod cig oen Cymru ymhlith y gorau yn y byd - mae Hybu Cig Cymru yn hyrwyddo hynny - ac mae prynwyr o amgylch y byd yn prynu cig Cymru oherwydd y safon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2018