Uwch Gynghrair Lloegr: West Ham United 3-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Parhau mae record wael ddiweddar Caerdydd yn erbyn West Ham ar ôl colli i'w gwrthwynebwyr am y seithfed tro yn olynol.
Methodd yr Adar Gleision gyfle gwych i fynd ar y blaen cyn yr egwyl ar ôl i Junior Hoillett gael ei wthio gan Marko Arnautovic, ond fe gafodd ymdrech gwan Joe Ralls o'r smotyn ei arbed gan Lukasz Fabianski.
Daeth holl goliau'r gêm yn yr ail hanner - y ddau gyntaf o fewn y 10 munud gyntaf wedi'r egwyl gan yr eilydd Lucas Pérez dros y tîm cartref a ddaeth i'r maes yn lle Arnautovic.
Fe beniodd Michail Antonio y bêl i'r rhwyd o gic gornel i sicrhau trydedd gôl West Ham wedi 61 o funudau, ac fe fyddai'r fantais wedi bod yn fwy oni bai am arbedion da gan Neil Etheridge yng ngôl Caerdydd.
Sgoriodd Josh Murphy gôl gysur i Gaerdydd gyda chyffyrddiad olaf y gêm.
Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Neil Warnock yn dal heb ennill gêm oddi cartref yn y gynghrair y tymor yma, ac maen nhw'n yn parhau yn 16eg safle'r tabl gydag 11 o bwyntiau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2018