Pwyllgor Cynulliad i ymchwilio i iechyd meddwl y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Tawel Fan
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ward Tawel Fan ei chau yn 2013

Mae angen i ymchwiliad Cynulliad i wasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru ystyried trafferthion y gorffennol yn ward Tawel Fan, medd AC Ceidwadol.

Yn ôl Darren Millar, aelod Gorllewin Clwyd, bydd yr ymchwiliad yn gyfle i gynnig atebion i deluoedd cleifion a gafodd driniaeth yno cyn i'r ward gau.

Cafodd y ward yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ei chau yn 2013 wedi honiadau bod cleifion wedi cael eu cam-drin yno.

Fe fydd ymchwiliad byr, a fydd yn cael ei gynnal yng ngwanwyn 2019 gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, yn edrych ar reolaeth gwasanaethau iechyd meddwl ac a gafodd problemau'r gorffennol eu datrys.

Yn flaenorol mae grŵp o ACau'r gogledd wedi gofyn i'r pwyllgor i ymchwilio i'r trafferthion ar ward Tawel Fan.

Dywedodd y pwyllgor y bydd yn "edrych ar reolaeth gwasanaethau iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd gyda chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru".

"Bydd y gwaith yn cynnwys adolygu argymhellion a gafodd eu gwneud gan bwyllgor arall, ac hefyd i edrych i'r dyfodol i sicrhau fod problemau'r gorffennol wedi'u datrys a bod systemau mewn lle i sicrhau nad yw methiannau rheoli yn digwydd eto."

Atebion

Dywedodd Mr Millar: "Roedd nifer o bobl yng ngogledd Cymru yn bryderus am y gwahaniaethau brawychus yn y canlyniadau gan y rhai a ymchwiliodd i ward Tawel Fan."

Daeth ymchwiliad yr arbenigwr gofal iechyd Donna Ockenden yn 2015 i'r casgliad bod cleifion wedi cael eu trin "fel anifeiliaid mewn sŵ", ond ym mis Mai dywedodd adroddiad swyddogol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol nad oedd yna dystiolaeth o gam-drin sefydliadol.

"Bydd yr ymchwiliad yma yn gyfle i ystyried y canlyniadau yna, clywed tystiolaeth gan randdeiliaid ac i benderfynu a yw'r camau sydd wedi eu cymryd yn ddigonol i ateb y trafferthion difrifol a ddaeth i'r amlwg mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn y rhanbarth," ychwanegodd Mr Millar.

"Mae teuluoedd Tawel Fan yn haeddu atebion i'r nifer o gwestiynau sydd ganddyn nhw o hyd am y gofal a gafodd eu hanwyliaid, ac rwy'n gobeithio y bydd yr ymchwiliad hwn yn gallu bod o gymorth i'w hateb.

"Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau'r ymchwiliad yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf."