A ddylen ni wahardd anrhegion Nadolig i athrawon?

  • Cyhoeddwyd
nadolig athrawonFfynhonnell y llun, Ysgol Rhosybol
Disgrifiad o’r llun,

Nodyn i rieni disgyblion Ysgol Rhosybol, Ynys Môn

Ydych chi'n cofio rhoi rhodd i'ch athro tra oeddech yn yr ysgol? Ydych chi'n athro sydd wedi derbyn rhodd gan ddisgybl?

Wel, mae Ysgol Gymunedol Rhosybol wedi anfon neges at rieni'r disgyblion yn dweud nad ydyn nhw eisiau derbyn anrhegion Nadolig eleni, ac y bydd cerdyn wedi'i ysgrifennu gan y disgybl yn fwy na digon.

Ar raglen Taro'r Post ar ddydd Llun, 4 Rhagfyr, roedd Garry Owen yn sgwrsio â Phennaeth Ysgol Rhosybol, Gwenan Roberts am beth oedd tu ôl i'r syniad hwn.

"Darllen rhyw erthygl yn y papur newydd wnes i, a theimlo'n reit euog yn gwybod y pwysau cynyddol sydd ar deuluoedd a rhieni yn yr hinsawdd bresennol sydd ohoni."

Ar ôl cael sgwrs efo'r staff yn yr ysgol, llawer ohonynt yn rhieni eu hunain, roedd pawb yn gytûn mai peidio derbyn anrhegion oedd y ffordd ymlaen.

Oes 'na bwysau i roi?

"Mae'n debyg bod 'na. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r plant wrth eu bodd yn rhoi hefyd. Pan wnaethon ni sôn wrth y plant i ddechrau, 'naeth wynebau'r plant ddisgyn. Roedden nhw'n hynod o siomedig i ddechrau efo hi."

Ar ôl trafod yn y dosbarth, dywedodd Gwenan bod y plant yn deall y rhesymeg tu ôl i'r syniad.

Dywedodd Mared, sy'n ddisgybl ym mlwyddyn 5 yn Ysgol Rhosybol,

"O'n i'n teimlo'n siomedig yn y dechrau, ond yn diwedd o'n i'n dallt pam. Os ydan ni'n gwneud rhywbeth bach i rywun llai ffodus na ni, mi fysa fo'n gallu bod rhywbeth mawr iawn iddyn nhw."

Pam dweud 'dim anrhegion', yn hytrach na rhoi uchafswm ar faint i'w wario?

"Y gost ydy'r prif beth i ni. Dydan ni ddim eisiau rhoi cost ychwanegol i'n rhieni ni. Dyna pam rydan ni wedi dweud y bysan ni wrth ein bodd derbyn cerdyn. Mewn ysgol fach hefyd, mae pawb yn 'nabod ei gilydd. Mae 'na duedd yn fan hyn i rieni ddod a presant i ella wyth ohonan ni de.

"O ymateb y plant 'da ni wedi mynd i ddweud, 'oce, os 'dach chi wirioneddol isio rhoi… be am i ni gael cerdyn bach, neu os ydach chi yn dymuno 'dan ni'n gwybod yn y pwll nofio lleol mae 'na fanc bwyd. Mae'n agored i bawb roi, os ydyn nhw'n dymuno."

Ffynhonnell y llun, EricJones
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Rhosybol, Ynys Môn

Taleb (voucher) gwerth £50 i athrawon

Dywedodd un ysgol breifat i ferched yn Lloegr nad oedden nhw eisiau i rieni wario mwy na £50 ar anrheg Nadolig iddyn nhw.

Tra bod hynny'n swnio'n "hurt bost" i Gwenan, yn ôl Iestyn Huw Rees, sy'n gofalu am blant yn Llundain, mae'n rhywbeth eitha' cyffredin: "Mae'r teuluoedd dwi wedi gweithio efo nhw yn y gorffennol, falle yn rhoi rhywbeth fel potel win a voucher £50, £100 falle.

"Mae hwnna'n eitha' standard fi'n credu. Fi'n gwybod am un ysgol yng ngogledd Llundain lle mae rhieni i gyd yn poolio arian at ei gilydd ac maen nhw'n hala'r arian i gyd ar un anrheg eitha' drud i'r athrawon, fel designer handbag werth cwpl o filoedd, falle."

Ydy dweud "diolch" yn unig yn ddigon?

Mae Kate Sutherland sy'n rhiant a llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Dinbych yn dweud ei bod hi'n naturiol bod eisiau mynegi diolchgarwch i holl staff yr ysgol.

"Fel rhiant a chadeirydd y llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd Dinbych dw i'n gwybod bod athrawon a chynorthwyydd dysgu yn gweithio'n andros o galed. Ac weithiau mae rhieni eisiau cymryd yr amser i ddweud diolch.

"Mae falle sgwennu llythyr, os ydy disgybl wedi bod yn stryglo i sgwennu neu ryw elfen fel 'na, ac yn gallu sgwennu llythyr 'ma sy'n dangos eu bod nhw wedi dysgu a bod yr athro neu'r athrawes wedi helpu hynny, fasa hynny dw i'n meddwl, i'r athro neu'r athrawes yn golygu mwy."