Aberteifi: Athrawon un undeb i bleidleisio

  • Cyhoeddwyd
Logo

Mae aelodau undeb yr NASUWT yn Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi pleidleisio o blaid gweithredu'n ddiwydiannol mewn pleidlais gychwynnol, yn sgil pryderon am yr hyn mae'r undeb wedi disgrifio fel "arferion rheoli andwyol" yn yr ysgol.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth BBC Cymru Fyw ddatgelu fod Cyngor Ceredigion yn cynnal ymchwiliad annibynnol i'r ysgol ar ôl derbyn cwynion gan dri chyn-aelod o staff.

Dywedodd llefarydd ar ran yr NASUWT y bydd yr undeb yn cynnal peidiais ffurfiol dros weithredu diwydiannol yn ystod yr wythnosau nesaf.

Gwnaed cais am sylw gan Gyngor Ceredigion i'r datblygiad diweddaraf.

Maen nhw eisoes wedi dweud "eu bod yn cymryd unrhyw bryderon a godwyd ynghylch ymddygiad staff ysgol yn ddifrifol iawn".

Mae 31 aelod o staff wedi gadael yr ysgol, sydd â 639 o ddisgyblion rhwng 11 a 18 oed, ers Ebrill 2015.

Yn ôl y cyngor mae'r rhif yma yn llai nag ysgolion uwchradd o faint tebyg o fewn y sir dros yr un cyfnod.

Yr wythnos diwethaf wrth gyhoeddi manylion am yr ymchwiliad annibynnol dywedodd llefarydd ar ran y sir:

"Bydd unrhyw weithrediad, os oes angen, yn cael ei gymryd gan yr Awdurdod Addysg Lleol a llywodraethwyr yr ysgol yn dilyn casgliadau'r adolygiad.

"Ni fydd sylw pellach yn cael ei wneud tra bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal."

Dywed yr NASUWT eu bod wedi derbyn cwynion gan aelodau presennol ynghyd â chyn-aelodau o'r staff ynglŷn â honiadau o "arferion rheoli andwyol".