Mynd â chynllun tyrbinau gwynt ym Mhowys i'r Uchel Lys
- Cyhoeddwyd

Mae gwrthwynebwyr yn honni y byddai'r tyrbinau'n dinistrio'r olygfa yn yr ardal
Bydd ymgyrchwyr yn cyflwyno papurau i'r Uchel Lys ddydd Iau wedi i gynllun i godi saith o dyrbinau gwynt ym Mhowys dderbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Rhoddodd yr Ysgrifennydd Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, sêl bendith i'r cynllun ger Llandeglau yn Sir Faesyfed ym mis Hydref.
Roedd Cyngor Powys wedi gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer fferm wynt Hendy ac roedd ymholiad cynllunio annibynnol wedi cefnogi'r penderfyniad hwnnw.
Mae ymgyrchwyr yn erbyn y cynllun yn poeni am effaith weledol tyrbinau a pheilonau mewn man harddwch, a'r bygythiad i lwybrau cyhoeddus gwarchodedig.
Ond fe ddywedodd Ms Griffiths y byddai'r cynllun yn mynd yn ei flaen am fod y buddion yn fwy nag unrhyw effeithiau negyddol posib.

Mae cangen Brycheiniog a Sir Faesyfed Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) yn herio'r hyn maen nhw'n ei alw'n "benderfyniad diffygiol".
Dywedodd Jonty Colchester, cadeirydd y gangen: "Mae'r penderfyniad annerbyniol hwn gan Lesley Griffiths yn anwybyddu holl gynrychiolaeth cyngor sir ac egwyddorion sylfaenol Polisi Cynllunio Cymru.
"Nid oes unrhyw bwynt mewn gwirionedd i gael fframwaith cynllunio os gellir ei anwybyddu.
"Nid ydym yn erbyn ynni gwynt - mae Powys yn creu llawer iawn ohono. Mae'r penderfyniad hwn wedi'i wneud heb ystyriaeth a byddwn yn brwydro hyd yr eithaf i'w wrthdroi.
"Mae YDCW yn cydnabod, os yw'r datblygiad hwn yn cael ei ganiatáu, bydd cynsail trychinebus yn cael ei osod i ganiatáu ffermydd gwynt yn unrhyw le yng Nghymru."
Byddan nhw'n cyflwyno eu gwrthwynebiad yng Nghaerdydd.