Dysgu Cymraeg drwy gân yn ysgolion Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd ar droed yn Sir Gaerfyrddin i ddysgu Cymraeg i blant ysgolion cynradd drwy ddefnyddio caneuon.
Ysgol Penygaer yn Llanelli yw'r cyntaf i gymryd rhan yn y cynllun sy'n cael ei drefnu gan Bartneriaeth Ymgyrraedd Yn Ehangach De Orllewin Cymru.
Dywed Ryan Peters o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mai'r bwriad yw ysbrydoli plant ym mlynyddoedd pump a chwech i ymddiddori yn yr iaith cyn symud ymlaen i addysg uwchradd.
"Beth rydym yn gwneud yw cynnal gweithdai i wrando ar ganeuon Cymraeg ac yna mynd ati i roi geiriau a chyfansoddi er mwyn i'r plant greu caneuon eu hunain.
"Creu caneuon sy'n cydio yn eu dychymyg," meddai.
"Rydym yn gofyn pa eiriau neu frawddegau maen nhw'n hoffi a sut i ni allu rhoi nhw mewn i ganeuon."
Dywedodd mai'r nod yw ceisio dangos iddyn nhw pam y dylen nhw barhau i ddysgu Cymraeg wrth symud i ysgol uwchradd.
"Y bwriad yw ymestyn y cynllun ar hyd ysgolion yn y de orllewin."
Fe fydd plant Ysgol Penygaer yn cael cyfle i berfformio eu can mewn cyngerdd Nadolig arbennig yr wythnos nesaf, sy'n cael ei drefnu yng nghanolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2018
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2017