Llywodraeth i adolygu Bargen Ddinesig Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Bae AbertaweFfynhonnell y llun, leighcol/Getty Images

Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cyhoeddi "adolygiad annibynnol cyflym" i Fargen Ddinesig Bae Abertawe.

Bydd yr adolygiad yn ystyried rheolaeth bob elfen o'r cynllun gwerth £1.3bn hyd yma.

Mae'r cynllun, gafodd ei gyhoeddi 18 mis yn ôl, yn ceisio creu mwy na 9,000 o swyddi dros gyfnod o 15 mlynedd ym meysydd technoleg a gwyddoniaeth.

Dywedodd datganiad ar y cyd y byddai'r adolygiad yn "sylfaen i'r cam nesaf" o wireddu'r cynllun.

Gobaith y Llywodraeth yw y bydd yr adolygiad yn rhoi sicrwydd i bartneriaid - sy'n cynnwys pedwar cyngor, bwrdd iechyd a phrifysgolion - y bydd "pob elfen o'r Fargen yn cyflawni manteision economaidd llawn y rhaglen uchelgeisiol hon".

Ychwanegodd y datganiad y bydd argymhellion yr adolygiad yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch rhyddhau cyllid y llywodraeth, yn ogystal â rhoi'r "hyder mwyaf" i fuddsoddwyr preifat posib.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynllun ei gymeradwyo gan Theresa May yn 2017

'Partneriaid wedi ymrwymo'

Yn gynharach, roedd galwadau ar i Swyddfa Archwilio Cymru ymchwilio i gynlluniau ar gyfer 'Pentref Lles' newydd gwerth £200m yn Llanelli.

Mae disgwyl i'r prosiect dderbyn £40m gan Lywodraethau Cymru a'r DU drwy'r Fargen Ddinesig.

Byddai'r pentref yn cynnwys gwasanaethau iechyd, addysg a hamdden.

Mae yna hefyd ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal ym Mhrifysgol Abertawe, sydd wedi arwain at wahardd aelodau o staff, ond nid oedd y Brifysgol yn barod i ymhelaethu ar y mater.

Ychwanegodd y datganiad fod pob un o'r partneriaid wedi ymrwymo i sicrhau llwyddiant y Fargen, ac fe gytunwyd y bydd gwaith ar brosiectau unigol yn parhau wrth ochr yr adolygiad.