Carwyn Jones ddim am benderfynu ar ffordd liniaru M4
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Carwyn Jones yn gadael i'w olynydd wneud y penderfyniad ar ganiatâd cynllunio i ffordd liniaru'r M4.
Roedd y Prif Weinidog wedi bwriadu rhoi'r gorchmynion fyddai wedi caniatáu i'r ffordd osgoi newydd ger Casnewydd gael ei hadeiladu cyn iddo ymddiswyddo ddydd Mawrth.
Ond dywedodd nad oedd wedi gwneud penderfyniad oherwydd yr angen am "ddiwydrwydd dyladwy cadarn" ar faterion fel cynefinoedd.
Ychwanegodd ei bod hi'n debygol nawr y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud "rhywbryd yn y flwyddyn newydd".
'Effaith ar gynefinoedd'
Roedd Mr Jones eisoes wedi awgrymu ei bod yn bosib na fyddai'n gwneud penderfyniad terfynol ar y cynllun cyn iddo adael y swydd.
Bydd y mater felly yn disgyn i Mark Drakeford, sy'n debygol o olynu Mr Jones fel Prif Weinidog yr wythnos nesaf.
Ddydd Iau cafodd Mr Drakeford ei gyhoeddi fel arweinydd newydd y blaid Lafur yng Nghymru.
Roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi na fyddai pleidlais yn cael ei gynnal yn y Cynulliad ar y mater nes y bydd y Prif Weinidog newydd yn ei swydd.
Mewn datganiad ysgrifenedig i ACau, dywedodd Mr Jones fod dau gam pwysig cyn adeiladu'r ffordd - cyhoeddi'r gorchmynion, a dyfarnu'r cytundebau.
Dywedodd y byddai'n rhaid i'r gorchmynion gael eu gwneud ar sail tystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus diweddar, a'r adroddiad yn deillio o hynny.
"Mae'n rhaid i'r penderfyniad gorchymyn hefyd fod yn seiliedig ar nifer o benderfyniadau perthnasol gan gynnwys yr effaith posib ar gynefinoedd gwarchodedig, rhandiroedd a thir comin," meddai.
"Oherwydd yr angen am ddiwydrwydd dyladwy cadarn a thrylwyr ar y pwyntiau hyn oll, does dim penderfyniad wedi'i wneud eto.
"Nid fi fydd yn gwneud y penderfyniad yna bellach, ond yn hytrach y Prif Weinidog newydd, gyda hynny'n debygol o ddigwydd rywbryd yn y flwyddyn newydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018