Buddsoddiad o £120m i economi'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Ken Skates

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n rhoi'r un faint o arian tuag at Fargen Dwf Gogledd Cymru ac y bydd Llywodraeth San Steffan.

Mewn cyhoeddiad ddydd Gwener, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates y byddai'r cyllid yn "drawsnewidiol" i'r ardal.

Ac er bod llefarydd economi'r Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, yn croesawu'r cyhoeddiad, dywedodd ei fod wedi bod "yn rhy araf yn ein cyrraedd".

Fe wnaeth Llywodraeth y DU gyhoeddi £120m tuag at y cynllun yn eu cyllideb ym mis Hydref, ond roedd hynny'n llai na'r disgwyl.

Dywedodd Mr Skates y byddan nhw'n parhau i bwyso ar weinidogion yn Llundain i gynyddu eu cyfraniad, ac y byddai'r un cyfraniad wedyn yn cael ei wneud gan Fae Caerdydd.

Bwriad Cynllun Twf Gogledd Cymru yw denu £671m o fuddsoddiad i'r ardal, gan greu tua 5,500 o swyddi.

Mae'r 16 cynllun sydd wedi'u cynnig yn cynnwys prosiectau ynni, ymchwil prifysgol, gwella cysylltiadau trafnidiaeth, a buddsoddi mewn busnesau digidol a gwella sgiliau.

Y gobaith oedd sicrhau £335.5m gan lywodraethau Cymru a'r DU, gyda £219m yn dod gan brifysgolion a cholegau a £109m gan fusnesau.

Mae disgwyl i'r fargen derfynol gael ei chadarnhau rywbryd yn 2019.

'Buddsoddi miliynau'

Dywedodd Mr Skates y byddai buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ychwanegol at gynlluniau maen nhw eisoes wedi'u cyhoeddi ar gyfer y gogledd.

Mae'r rhain yn cynnwys ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd, gwelliannau i'r A55 ac A494, trydedd bont dros y Fenai, a Pharc Gwyddoniaeth Menai.

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu, ynghyd â'n buddsoddiadau presennol, ein bod yn buddsoddi miliynau o bunnoedd yn y Gogledd," meddai.

"Mae hyn yn tystio i'r ffaith bod parhau i wella seilwaith ac economi'r rhanbarth yn flaenoriaeth i ni.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a hefyd partneriaid y sector preifat gydweithio er mwyn sicrhau bod y fargen yn llwyddiant ysgubol."

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd yn cyfrannu £120 miliwn at Fargen Twf y Gogledd yng Nghyllideb Canghellor y DU ym mis Hydref.

Fodd bynnag, dywedodd llefarydd economi'r Ceidwadwyr Cymreig, Russell George fod angen i'r llywodraeth ymateb "tipyn cyflymach" gyda chefnogaeth ariannol i gynlluniau o'r fath yn y dyfodol, er mwyn sicrhau nad oes "cyfleoedd yn cael eu colli".